Cyfrif X swyddogol Cyngor Sir Ynys Môn. Caiff y cyfrif ei fonitro rhwng 8.30yb-5.00yp Dydd Llun-Gwener. Mewn argyfwng: (01248 750057). English: @angleseycouncil
O'r diwrnod cyntaf, i flynyddoedd newydd mae heddiw yn ddiwrnod mawr i deuluoedd.
Gall hefyd fod yn gyfnod drud i rieni.
Mae Grant Hanfodion Ysgol yn cynnig hyd at £200 i deuluoedd cymwys tuag at eitemau fel gwisg ysgol: https://t.co/acKyWUWK7h
#HelpGydaChostauYsgol
Ymunwch â ni i wylio Singin' in the Rain mewn awyrgylch hamddenol ar 24/09 yn Neuadd Bentref Llangoed
Croeso i bawb yn y dangosiad dementia-gyfeillgar hwn, gyda goleuadau isel, lefel sain is, isdeitlau, a llefydd i gadeiriau olwyn. Mae tocynnau'n £4, gan gynnwys te neu goffi.
Bydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael ei weddarlledu yn fyw heddiw (Dydd Mercher, Medi 2) am 1.00yp.
Cewch wylio'n fyw neu unrhyw amser arall drwy ddilyn y linc yma: https://t.co/aYa0Eqb5Ol
🌬️🍃Rhybudd 🍃🌬️
A55 Pont Britannia terfyn cyflymder 30mya ar waith oherwydd gwyntoedd cryfion.
Diweddariadau pellach i ddilyn. Cymerwch ofal wrth deithio.
@CyngorGwynedd@cyngormon
Rhybudd Tywydd Melyn - stormydd mellt a tharanau⚠️
Mae'r Swyddfa Dywydd Met Office wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn a fydd yn effeithio Ynys Môn heddiw a fory (26/08-27/08).
Ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn byw gyda dementia?
Ymunwch â Dementia Actif Môn yn Rhosneigr am weithgareddau, cymdeithasu a chefnogaeth mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.
A5 Pont y Borth Menai🌉
Bydd angen goleuadau traffig dros dro i ganiatáu gwaith archwilio hanfodol ar y tyrau🚦
📅02/09/26 - 05/09/26 |⌚09:00 - 15:00
Mae’r gwaith wedi’i gynllunio mewn ffordd sy’n lleihau cymaint o aflonyddwch a phosib. Diolch am eich amynedd.
Diwrnod canlyniadau TGAU! Llongyfarchiadau a da iawn 🎉👏
Ledled Cymru, mae pobl ifanc bellach yn ystyried ei camau nesaf. Mae Cymru'n Gweithio yn parhau i'w cefnogi nhw a'u teuluoedd gydag arweiniad clir, am ddim a chyngor diduedd.
Am fwy o wybodaeth https://t.co/iOkJ8xSdev
Môn yn dathlu canlyniadau TGAU a Lefel 1 a 2
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn llongyfarch yr holl ddisgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU a Lefel 1 a Lefel 2 arall heddiw.
https://t.co/27ztvp2au8
Er mwyn cefnogi dathliadau pen-blwydd Pont Menai yn 200 mlwydd oed, fe fydd yr A5 ar gau ar 8ed Awst:
⌚06:00–10:00
Goleuadau traffig a lôn ar gau🚦
⌚10:00–14:00
Pont gyfan ar gau⛔
⌚14:00
Ffordd yn ail agor yn gyfan🟢
Diolch am eich cydweithrediad
YFORY: Is-Etholiad Cyngor Sir – Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2026
Cynhelir Etholiad am Gynghorydd Sir dros y Ward Etholiadol Bro’r Llynnoedd.
Nid oes angen dangos prawf adnabod gyda llun na dod â'ch cerdyn pleidleisio wrth fynd i'r orsaf bleidleisio.
2/2 Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig. Hoffwn eich hatgoffa mai cerbydau o dan 7.5t yn unig sy’n cael croesi Bont y Borth.
1/2 A5 Pont y Borth – Ffordd ar Gau.
Mae cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont felly mae’n rhaid cau’r ffordd er mwyn gwneud archwiliad. Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy’n saff i wneud hynny.
Cadwch yn ddiogel wrth y dŵr. Cofiwch: Arnofiwch i fwy.
Ac os ydych chi'n gweld rhywun arall mewn trafferthion yn y dŵr - cofiwch: Ffoniwch, Arnofiwch, Taflwch.
Diwrnod Atal Boddi y Byd
Gwaith Ffordd🚧 #A55
📍 Pont Britannia
📅 27/07/26 – 30/07/26 ⌚ 19:30 – 06:00
🔧 Cau un lôn gyda goleuadau traffig dwyffordd ar waith
🔀 C8A ffordd ymuno tua'r dwyrain ar gau am oodeutu 2 awr bob nos gyda gwyriad wedi'i arwyddo