Mae’n ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch/UG ✨
Wrth i amlenni gael eu hagor, cofiwch - mae mwy nag un llwybr ymlaen. Os nad yw'r canlyniadau yr hyn yr oeddech chi'n ei ddisgwyl, mae cefnogaeth ar gael.
Cewch gyngor am ddim gan Cymru’n Gweithio:
https://t.co/oEfXb89uVQ
Pob lwc i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau yn ystod yr pythefnos nesaf a phob hwyl i chi beth bynnag fydd eich cam nesaf.
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Dirprwy Gweinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol.
@cymwysterau_cym@wjec_cbac@LlywodraethCym@Cymraeg
"Rwy’n annog pawb i ddilyn cyngor y gwasanaeth brys a chadw’n glir o unrhyw danau sy’n llosgi er mwyn i’r criwiau allu canolbwyntio ar warchod cymunedau a dod a’r tanau hyn dan reolaeth."
Datganiad gan y Prif Weinidog yn dilyn y tân yng Nghaerffili:
"Mae’r delweddau o’r difrod tân yn Nhrecelyn yn dorcalonnus. Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio ac rwy’n ddiolchgar i’r gwasanaethau brys am eu hymdrechion diflino dan amgylchiadau mor heriol."
Fe wnaethon ni ddal i fyny â Cian Ciaran o Super Furry Animals yn yr Eisteddfod ar ôl eu perfformiad cyntaf yn y Gymraeg ers 30 mlynedd.
Mae cydweithio rhyngwladol, meddai, yn allweddol i helpu pob iaith frodorol i ffynnu...
@eisteddfod@superfurry
Mae amodau poethach oherwydd newid hinsawdd yn golygu risgiau uwch o danau gwyllt. Rydym yn gweithredu i gryfhau gwydnwch Cymru ar gyfer y dyfodol.
Hotter conditions due to climate change mean greater wildfire risks. We are acting to build Wales’s resilience for the future.
Mae diwylliant a chwaraeon wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Cymru.
Byddem wrth ein bodd yn cael eich barn i helpu i lunio ein strategaeth newydd.
Dweud eich dweud 👇
https://t.co/ZDGv6EKagI
Day 75. Diwedd ein tymor cyntaf.
With the Senedd's summer recess well underway, we're looking back at the people, places and moments that have shaped our first 75 days in government.
Mae'r gwaith yn parhau: https://t.co/eGbsMNbxvD
Tîm Cymru in action and celebrating a new chapter for school swimming in Wales 🏴
Mwy o gyfleoedd, mwy o hyder, more water safety skills for life.
@TeamWales | @SwimWales | @sportwales
O fis Medi ymlaen, bydd rhaglen Nofio Ysgol yn cael ei chyflwyno i roi mynediad i wersi nofio a gwersi diogelwch dŵr i fwy o blant cynradd ledled Cymru.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i bob ysgol gynradd erbyn 2028.
Datganiad gan @SianGwenfelin am danau gwyllt:
"Mae'r ymateb gan ein diffoddwyr tân, gwasanaethau brys ac asiantaethau partner wedi bod yn anhygoel ac yn dangos ymroddiad anhygoel... Rydw i am dalu teyrnged i bob un ohonynt" ❤️
https://t.co/NsJDUCkBUj
Yn dilyn ei alwad gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig @10DowningStreet y bore yma, dywedodd Prif Weinidog Cymru, @RhunapIorwerth:
“Rwy’n falch o longyfarch y Prif Weinidog mewn sgwrs bore ‘ma ac i nodi fy ngobaith y gallwn feithrin perthynas bositif ac adeiladol."
Ar Ddiwrnod 2 Sioe Frenhinol Cymru, dyma gyhoeddi Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd i Gymru – dull trawsnewidiol o'r fferm i'r fforc.
Yr arbenigwr bwyd a pherchennog Wright's Food Emporium, Simon Wright, fydd yn cadeirio grŵp arbenigol i helpu i lunio dyfodol y strategaeth.
1/3 🚒Diweddariad 10:15am🚒
Rydym yn parhau i fod yn y tanau ym mynyddoedd y Rhinogydd ger Llyn Cwm Bychan, yn agos at Harlech, Pentrefelin, Caergybi, ac ar y mynydd uwchben Capelulo ger Bwlch Sychnant.
£1 biliwn i ffermwyr Cymru.
Ar Ddiwrnod 1 y Sioe Frenhinol, mae Llyr Gruffydd yn cyhoeddi dros £1 biliwn i ffermwyr Cymru yn ystod y tymor hwn yn y Senedd – gan roi'r sicrwydd a'r hyder i'r sector gynllunio, buddsoddi a chefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy.
Rhagor i ddilyn...
Heddiw, ymunodd y Prif Weinidog a Gweinidog Iechyd Menywod cyntaf Cymru, Delyth Jewell, â chlinigwyr, ymchwilwyr a menywod â phrofiad byw yn yr Uwchgynhadledd Iechyd Menywod.
Dylai lleisiau menywod gael eu clywed. Ni ddylai poen menywod gael ei anwybyddu. Dyna ein haddewid.
1/3 Diweddariad
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn adrodd bod yr adroddiad o ddigwyddiad difrifol a ddatganwyd ddydd Sul bellach wedi dod i ben, gan bod adnoddau nawr yn gallu rheoli'r lefel bresennol o weithgarwch tanau gwyllt ar draws y rhanbarth yn effeithiol.