Diolch i ddisgyblion @crudywerin a @YGCymru am y cyfla i gynnal gweithdy a llunio cerdd i ddathlu dauganmlwyddiant Pont Aberdaron heddiw! Mi fydd y gerdd i'w gweld a'i chlywed yn y dathliadau sydd ar y ffordd gyda lwc.
"Y cyfeirnod oedd '23 degrees, 50 minutes north, 27 degrees west'.Yr union fan lle y boddwyd brawd ei daid ar 21 o Ebrill 1941."
Stori ryfeddol teulu o forwyr o Uwchmynydd, Aberdaron 🏴🌍🌊⬇️
https://t.co/lCiUVO1qPy
Roedd Dydd Sadwrn yn ddiwrnod arwyddocaol ac emosiynol iawn i mi, ac i Deulu Brynchwilog, Uwchmynydd. Hwyliais y Voltaire yn agos i'r safle a suddwyd y "Calchas," dwy a phedair ugain o flynyddoedd yn ôl (bron i'r diwrnod) Collodd Hugh Erith Williams, brawd fy nhaid ei fywyd y
Wythnos i heddiw. Mae’r ras yn ôl! Bydd yr elw’n cael ei rannu rhwng Cronfa Leol Aberdaron @eisteddfod 2023 ac Adran @UrddEryri Aberdaron a Rhiw. Dewch i redeg neu i gefnogi!
Prynhawn difyr i fl9 gyda @NiaWynWilliams1 Glampio/Crasu Coed yn trafod manteisio ar ddwyieithrwydd i hyrwyddo’r busnes gan roi lle blaenllaw i’r Gymraeg ymhob agwedd. Pawb wrth eu boddau gyda enwau gwreiddiol y pitsas! #sianblaen#paradwysporthor#wiwergoch
Diolch yn fawr iawn i griw @Urdd Aberdaron a Rhiw fuodd yn brysur yr wythnos ddiwethaf yn glanhau traeth #Aberdaron.
Mae'r traeth mewn cyflwr gwych ar hyn o bryd oherwydd eu gwaith caled nhw a mi fydd holl drigolion Gwynedd yn elwa o waith arbennig y criw.
Da iawn!
Cefnogwch ymgyrch codi arian Cymdeithas Staff Ysgol Botwnnog. Rhwng gwyliau'r hanner tymor a gwyliau'r Pasg byddwn yn cerdded neu redeg pellter Llwybr Arfordir Cymru gan gasglu arian i @air_ambulance ac @eisteddfod 2023.
https://t.co/Mx1eUDXZm6
Diolch o galon i @boimoel @BBCRadioCymru am ddewis ‘Trac yr wythnos’ ar gyfer disgyblion @CymraegBotwnnog . ‘Llyn Llawenydd’ gan @papurwal yn ddewis gwych! https://t.co/KLjd2ITHsL
Taith Adnabod Bro Bl7 efo’r criw cyntaf heddiw. Hanes lleol a gwaith cyfeiriannu yn Aberdaron. Cwmni difyr @john_dilwyn yn @plasglyn. Braf cael ymweld â pherlau ein hardal unwaith eto. #ymlaen
Nos Sul-y noson berffaith i hel atgofion. Anfonwch eich atgofion o Eisteddfod Ysgol Botwnnog dros y blynyddoedd. Cyn-ddisgyblion, disgyblion presennol, rhieni, athrawon, cyn-athrawon, rhannwch yr uchafbwyntiau. AD plis!
Mae hi yn argyfwng o ran tai yn lleol. Mae’r sgrifen ar y mur ac mae’r sgrifen ar y tywod rwan i atgoffa ein bod yn dal i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddatrys yr argyfwng ar frys. #Hawlifywadra
Ail drydarwch plis