EXCLUSIVE 🚨 w/@harryyorke1
British intelligence withdrew assessment that giving peerage to Evgeny Lebedev posed national security risk after Boris Johnson intervened
PM ignored warning about son of ex KGB spy and oligarch, said it was "anti-Russianism"
https://t.co/fo4Uv4wwuD
Mae’n bleser gan @LlenCymru gyhoeddi cyfres o Wersi Cynganeddu Digidol dan arweiniad y Prifardd @NeiKaradog.
Ewch draw i’n gwefan am ragor o wybodaeth: https://t.co/MO6wN1ajEr
🥳 Pleser cyhoeddi mae @NeiKaradog yw beirniad ein cystadleuaeth farddoniaeth 14-25 oed. Dyma neges i chi gan y Karadogiaid (yn eu coch, gwyn a gwyrdd! ❤️🤍💚)
📝 Ewch ati dros y penwythnos i chwilio am yr awen!
Dyddiad cau: 11eg o Fai
#EisteddfodT
@manuelcj89 Mae gen i go fod hyn yn cael ei feirniadu yn hallt gan bobol fel JMJ yn eisteddfodau hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, ond ymddengys fod y peth yn fwy derbyniol bellach. Yn sicr tasai’r collnod r o flaen gair a gwychwyn hefi llafariad gellir honni fod yr ‘r’ yn rhan o’r gair nesa
"Hyd y gwn i, ni fu erioed cwrs carlam i ddysgu’r grefft yn unman arall yn y byd ar unrhyw adeg arall mewn hanes, ac ymddengys mai dyma’r ffordd orau i ddysgu" - Aneirin Karadog.
Ymunwch â @NeiKaradog a Mererid Hopwood am benwythnos o gynganeddu: https://t.co/JANBJU4568
Peidiwch galaru am Ewrop
Ni chiliodd hi ddim dros y ffin.
Mae hi yma o hyd yn ein cwmni
Yn rhannu ein straeon a’n gwin,
Yn cydlawenhau â’i chwiorydd
A’i brodyr, yn estyn ei llaw
Gan wrthod ymadael â’i ffrindiau
Ond aros, beth bynnag a ddaw.
Peidiwch galaru am Ewrop,
Mae Ewrop yn dal yn fyw
Yn ein chwedlau, ein henwau a’n hanes,
Yn y geiriau a ddwedwn wrth Dduw;
Mae i’w chlywed yn llais ein halawon,
Mae i’w gweld yn ein hawliau clir;
Mae Ewrop yn fyw ynom ninnau
Ein plant ein cartrefi a’n tir.