Ydy fy nilynwyr dal yn defnyddio X? Dw i wedi symud bron yn gyfan gwbl i https://t.co/WH0Vgujc4o a llefydd eraill, ond dw i'n colli fy nilynwyr yma!
Rhowch waedd os ŷch chi dal yma (neu grewch gyfrifpn ar Toot, i ni gael trafod eto yno.)
@NeilApRhondda Nipsy - dere aton ni ar Bluesky, butt! Mae lôds o Gymry Cymraeg yn cyrraedd trwy'r amser, a dw i newydd ddechrau #feed ar gyfer y walgoch, i bawb gael trafod pêdroed a Chymru. Wi'n mynd i stopio defnyddio'r ap yma yn fuan, a sa i'n moyn colli cysylltiad gyda pobl fel ti.
@geiriadur Shwmae, dîm? A fyddai modd i chi ddod â'ch gair y dydd draw at Bluesky? Mae cannoedd o Gymru Cymraeg wedi ymuno dros y dyddiau diwethaf (dw i newydd lenwi 'starter pack' gyda 250 o gyfrifon!) ac r'yn ni'n ysu am gynnwys difyr! https://t.co/hAV0rTsnwf
Mae 250 o gyfrifon gyda fi ar starter pack o bobl sy'n postio yn Gymraeg draw ar Bluesky. Gallwch chi eu dilyn i gyd gyda biti 5 clic os ddewch chi draw aton ni!
https://t.co/hAV0rTsnwf
Mae'r bwrlwm wedi gadael X!
O'dd arfer bod opsiwn 'translate' ar gael ar waelod rhai postiau ar X, ond mae wedi diflannu i fi. Ydy hynny'n wir i bawb? Neu oes gosodiad galla i newid i'w gael ei nôl?
Dwi'n egseited iawn i roi wybod bod sengl newydd Cynefin, Helmi. allan dydd Mercher - jyst mewn amser ar gyfer @lleisiaueraill. Cadwch eich llygaid ar agor am fwy ar ddydd Mercher a diweddariadau am yr albwm i ddod. Yn y cyfamser dyma'r ddolen rhag-gadw.
https://t.co/yqX5TP0528
I unrhywun sydd yn meddwl symud oddi yma, neu mae Cymraeg i Bawb arBlueSky newydd gyfhoeddi starter pack o bobl sy'n postio yn Gymraeg.
https://t.co/2Z6kI8WYzK
Dewch i weld!
Werth gwylio https://t.co/YqsRoiuryP ar BBC Three heno am 21:15 i glywed cerddoriaeth gan Owen Shiers ac Iwan Evans!
This is worth watching tonight for some good Welsh music!
@PaulMathUn @CymraegDoctor Cwestiwn diddorol!
Mae gen i deimlad / mae teimlad 'da fi = I have a feeling
Dw i'n cael teimlad = I'm having / getting a feeling
Substitute breuddwyd (dream) and you get I have a dream vs I'm having a dream.
Does that help?
Cofiwch ddiwrnod Shwmae Su'mae fory! https://t.co/zL28AqCDII
Dywedwch "Shwmae!" wrth bawb, hyd yn oed os ŷch chi yn America, Yr Almaen, neu Loegr...
Say "Shwmae!" to everyone, even if you are in America, Germany, or England...
Oce. 14 cilomedr mewn awr 41 munud. Ddim yn syfrdanol, ond yn rhoi hyder i fi bod siawns 'da fi i orffen hanner marathon.
Cwestiwn nesaf. A fydd modd i fi gerdded fory?
#rhedeg#cropian
Prynhawn da bawb! Mae'n ddiwrnod perffaith i redeg heddiw, felly dw i'n mynd mas am 10 km neu efallai mwy, yn barod am hanner marathon Caerydd ymhen pythefnos. Dw i ddim yn barod o gwbl. 😱
Oes rhywun arall yma yn joio #rhedeg?
@PaulMathUn @CymraegDoctor Ateb syml: dim llawer. The 'wrthi' emphasises that you were actually preparing the cake at the time you are discussing. A better contrast would be 'dw i'n siarad' vs 'dw i wrthi'n siarad'. Where 1 could be 'I speak', 2 is 'I'm in the act of speaking now'. Clearer?
@NeilApRhondda Yn y gogledd, ma nhw'n gweud 'gwatsho' a gwitsho' (am aros) - mae'r geiriau wedi tyfu g trwy dad-dreuglo, felly i fi, mae nhw'n eiriau Cymraeg erbyn hyn.