Ar ddiwrnod llwm a llwyd dyma edrych ymlaen at yr haf !Allan fis Mai. Llanast Rhosgadfan ydi’r llun sydd ar y clawr sef meringue, hufen, llus a ceulad lemwn - wedi cael ei ysbrydoli gan y ffaith i mi ollwng lemon meringue efo llus ynddi yn clatsch ar lawr un tro! @GwasgyBwthyn
Noson wych yn @PontioTweets ac mor ffodus i gael @DelythHumphreys fel cydlynydd cerdd 🎶 yn @YsgLlanllechid - sy’n #dathlu70 eleni - llongyfarchiadau bawb. ❤️
Gyda’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn wynebu argyfwng ariannol, a pres yn brin i dalu am farchnata mae gofyn arnom ni awduron farchnata ein gwaith ein hunain! 🙈Maddeuwch i mi felly am hwrjo rhain arno chi ‘cofn bo chi’n chwilio am rhywbeth i roi mewn hosan Dolig!
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Dr Sara Elin Roberts, arbenigwr rhyngwladol ar destunau a llawysgrifau Cymraeg canol, Cyfraith Hywel, a barddoniaeth Dafydd ap Gwilym, wedi ei dyrchafu'n Athro er Anrhydedd yn Ysgol y Gymraeg. Llongyfarchiadau gwresog iddi.
Ydych chi'n athro yng Nghymru gydag MA? Mae’r rhaglen EdD Cenedlaethol (Cymru) yn grymuso addysgwyr i ysgogi newid ar gyfer dysgwyr a'r sector addysg yng Nghymru.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Tachwedd 1af -https://t.co/ZWSrCgximp
Ymunodd ein Prif Weithredwr, Helgard Krause, â Phwyllgor Diwylliant y Senedd, @SeneddDiwyllCRh, heddiw i gyflwyno tystiolaeth ar effaith gostyngiadau cyllid ar y sector gyhoeddi a rhannu’r heriau a chyfleoedd i’n diwydiant.
Diolch i'r Pwyllgor am y cyfle.
Croeso i'n carfan newydd o fyfyrwyr! Braf gweld cymaint yn dechrau ar y rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon, Partneriaeth CABAN.
Welcome to our new cohort of students! It's great to see so many starting on the Initial Teacher Education programme, CABAN Partnership.
Profiad arbennig oedd cael fy urddo ddydd Gwener am yr ymchwil a'r parablu gen i am lyfrau plant a phobl ifanc dros y blynyddoedd! Mi hoffwn felly godi llais unwaith eto dros lên plant, a hynny ar adeg pan mae angen llyfrau arnyn nhw a ninnau'n fwy nag erioed. 🧵#CaruDarllen
✨Llongyfarchiadau gwresog i Eurgain Haf, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, gyda'r gyfrol Y Morfarch Arian.
📚Ar gael nawr ar y maes, neu o’ch siop lyfrau leol.
#Steddfod24#CefnogiSiopauLlyfrau