Pen-blwydd Hapus Theatr Fach Llangefni yn 65 mlwydd oed. 🎈
Bu hi’n 65 mlynedd lwyddiannus dros ben gan obeithio y bydd y 65 nesa mor llwyddiannus.
Dros yr wythnosau nesa byddwn yn rhannu lluniau ac ambell fideo o’r theatr a’r cynyrchiadau.
Canmlwyddiant geni Wil Sam, athrylith unigryw Gymreig. Dyma glawr gwych ei frawd, yr artist Elis Gwyn, i Dinas Barhaus yn 1968. Cyhoeddwyd gan @YLolfa rhan o'r un 'diwylliant amgen'. Y clawr cefn yn dangos ymarfer yn y Gegin Cricieth; Alun Jones y nofelydd yw'r actor ifanc.
Mae hi’n Fai’r 8fed. Mi oedd Gwyl Ddrama Môn i fod heno a fory ond nid felly oedd hi fod eleni. Edrychwn ymlaen at Ebrill 23/24, 2021. Digon o amser ichi ddramodwyr i fynd ati i ysgrifennu clasur!
Beth am gyfansoddi drama yn ystod y cyfnod yma? I’r rhai dros 19 oed- cyfansoddi drama lwyfan hyd at awr o hyd. Gwobr: medal a £150.
Dan 19 oed: ysgrifennu sgript ar gyfer y llwyfan ar unrhyw thema. Gwobr: taleb £50 gan Pontio. Beirniad: Betsan Llwyd. Dyddiad cau: Rhagfyr7fed
Beth am gyfansoddi drama yn ystod y cyfnod hma? I’r rhai dros 19 oed- cyfansoddi drama lwyfan hyd at awr o hyd. Gwobr: medal a £150.
Dan 19 oed: ysgrifennu sgript ar gyfer y llwyfan ar unrhyw thema. Gwobr: taleb £50 gan Pontio. Beirniad: Betsan Llwyd. Dyddiad cau: Rhagfyr7fed
Mae Gŵyl Ddrama Môn bellach am gael ei chynnal ar y 23 a’r 24ain o Ebrill, 2021 yn Theatr Fach Llangefni. Mae’r cystadlaethau cyfansoddi wedi eu hailagor a bydd cyfle i gyflwyno gwaith o’r newydd erbyn Rhagfyr 7fed, 2020. Cysylltwch â [email protected] os am wybodaeth.
Bore da gyd- garwyr y theatr!
Gan bod Gwyl Ddrama Môn wedi ei gohirio am y tro- dyma gyfle i ofyn: PRYD YDI’R AMSER GORAU I GYNNAL GWYL DDRAMA? Tymor yr Hydref? Gwanwyn? Haf? Cynigiwch fis imi ac eglurwch pam. Diolch! Xx
Oherwydd yr argyfwng presennol, yn anffodus bydd angen gohirio Eisteddfod Môn Bro Esceifiog 2020
sy’n cynnwys GWYL DDRAMA MON Mai 8+9
Bydd y Pwyllgor Gwaith yn trafod dyddiad newydd dros yr wythnosau nesaf.
Diolch am eich dealltwriaeth.
Diolch i bawb fu’n brysur yn sgriptio ar gyfer cystadleuaeth Y Fedal Ddrama yng Ngwyl Ddrama Môn. Rwan berfformwyr - mae angen ichi gofrestru erbyn Mawrth 1af. Mwy o fanylion i ddilyn. Ewch amdani!