Mae penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i dorri un rhanbarth proffesiynol o'r Gorllewin wedi siglo'r gêm yng Nghymru.
Gyda chefnogwyr yn gandryll, heno 'ry'n ni'n holi: be' nesa i rygbi yng Nghymru? Heno 20:00 @S4C
Mae Erin Thomas, 27, yn dweud ei bod wedi ymddiried mewn gweithwyr proffesiynol i helpu ei thad, Tony, ar ôl iddo gael diagnosis o frontotemporal dementia yn 52 oed, yr un afiechyd a laddodd ei fam a’i chwaer.
https://t.co/xg84bviKpJ
System ofal dementia sy’n methu pobl iau, a theulu’n cael eu gadael gyda biliau o £200,000
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymddiheuro unwaith eto am beidio â rhoi gwybodaeth a chanllawiau i Erin am yr asesiadau a’r cymorth ariannol oedd ar gael i’w thad
🇩🇪Mae’r gefnogaeth i bleidiau asgell dde ar gynydd ar draws Ewrop. Ond pam?
Mae @Sion_J wedi bod ar daith ar draws yr Almaen adeg etholiad y wlad i gwrdd â phobl o blaid ac yn erbyn AfD, Alternative für Deutschland.
📺Gwyliwch @YBydarBedwar nos Lun, 20:00 ar @S4C
Mae gan Reform UK a AfD yn yr Almaen y nifer fwyaf o ddilynwyr o blith yr holl bleidiau gwleidyddol yn eu gwledydd.
Mae AfD wedi cipio’r ail safle yn etholiadau’r Almaen.
Ydy Cymru ar fin gweld shifft gwleidyddol hefyd?
@YBydarBedwar: Troi i’r dde? 🇩🇪
Heno, 20:00, @S4C
Rhaglen ‘dw’i ‘di bod yn gweithio arni dros y misoedd diwetha’ am honiadau o fwlio a diwylliant gwenwynig yn Nant Gwrtheyrn.
Fis Ionawr eleni, wnaeth @YBydarBedwar dderbyn llythyr…
🧵⬇️
Mae gweithwyr a chyn-weithwyr Nant Gwrtheyrn wedi dweud wrth @YBydarBedwar fod Bwrdd Ymddiriedolwyr y Nant wedi anwybyddu eu pryderon am ddiwylliant 'afiach a gwenwynig' yno.
Gwadu hyn mae'r Bwrdd - gan ddweud nad yw'r rhaglen yn adlewyrchu barn y staff.
https://t.co/qmLuaAuMX7
'Oedd o wir yn awyrgylch afiach i fod yn gweithio ynddo fo…'
Ymchwiliad @YBydarBedwar sy’n datgelu honiadau o ddiwylliant gwenwynig yn Nant Gwrtheyrn.
Mae Bwrdd Nant Gwrtheyrn wedi dweud eu bod nhw wedi cymryd camau i gryfhau’r cysylltiad gyda’r staff yn 2023.
Llywodraeth Cymru ‘wedi diystyru’ pryderon am ymddygiad gwael yn Ysgol Dyffryn Aman fisoedd cyn ymosodiad yno
Welsh Government ‘palmed off’ concerns of poor behaviour at Ysgol Dyffryn Aman months before attack
@ybydarbedwar
HENO TONIGHT
20:00 @S4C
Cyn-ddirprwy bennaeth Ysgol Dyffryn Aman wedi codi pryderon am ymddygiad disgyblion gyda Llywodraeth Cymru cyn i athrawon a disgybl gael eu trywanu yn yr ysgol.
Yn ôl y llywodraeth mae eu "harweiniad yn glir iawn" ar gyllyll ac maent yn dysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd.
Chwe chŵyn, tri chategori o fwlio, un aelod o staff.
Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Catherine Smith, sy’n amddiffyn y penderfyniad i beidio sacio unigolyn sydd wedi’i gael yn euog o fwlio yn y gweithle.
Y cyfweliad a’r rhaglen lawn ar @S4C a @BBC iPlayer.
Mae cyn-weithwyr ac aelodau presennol o staff @HybuCigCymru wedi datgelu bod “diwylliant toxic o anonestrwydd, ofn, a ‘gaslighting’” yn bodoli yno. Mae’r corff yn cyflogi tua 30 aelod o staff, ond dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf mae 13 o weithwyr wedi gadael neu ar fin gwneud.
@HybuCigCymru@LlyrGruffydd@Sion_J Mae @HybuCigCymru yn gwmni annibynnol, ond mae pob un o’r cyfarwyddwyr a’r Cadeirydd yn cael eu penodi gan @LlywodraethCym . Dywedodd llefarydd ar eu rhan:
"Rydym yn parhau i gefnogi Hybu Cig Cymru i gyflawni ei waith pwysig i'r sector cig coch yng Nghymru.