@LlyrGruffydd@Plaid_Cymru@HSBC_UK Dim yn dderbyniol ond ddim yn anghyfreithlon chwaith. Sut bod gennych gymaint o amser a sylw i hyn ond @Plaid_Cymru a'i chynghorwyr yn cadw'n dawel tra bod Cyngor Wrecsam yn anghyfreithlon yn mynnu bod plant y sir yn defnyddio Saesneg i gael gwersi nofio?
@ComyGymraeg Meddai 'rheoleiddiwr' sy'n taflu camau gorfodi ei rhagflaenydd i'r bin a chaniatáu i Gyngor Wrecsam parhau i amddifadu plant y sir o allu dysgu nofio yn Gymraeg. Tro nesaf mae fy merched mewn dagrau yn gofyn eto am wersi, mi ffoniaf eich swyddfa i chi esbonio a'u cysuro nhw.
@LlyrGruffydd Aelodau @SeneddCymru@LlywodraethCym a @ComyGymraeg sydd â chwestiynau i'w hateb. I rywun sy'n ceisio byw yn Gymraeg, mae wynebu rhwystrau ac agweddau fel hyn yn gyffredin gan gwmnïau, unigolion a swyddogion o fewn sefydliadau Cymreig. Methiant cynllunio, addysgu a rheoleiddio.
Blynyddoedd o wersi nofio yn Saesneg gan hyfforddwyr methu trafferthu dweud eu henwau yn iawn neu dim dysgu nofio o gwbl yw'r dewis i blant Cymraeg @CBSWrecsam, ond i gynghorwyr fel @marcvjones gwir trychineb yw gorfod dewis rhwng gwylio dau gêm bêl-droed?
https://t.co/33bHg9bKyU
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu hethol i’r Senedd, aelodau hen a newydd. Edrychwn ymlaen at gydweithio dros y Gymraeg a’n gweledigaeth #MwyNaMiliwn.
Bydd y 5 mlynedd nesa yn dyngedfennol i’r iaith a byddwn yn sicrhau bod pob plaid yn rhoi blaenoriaeth iddi 💪
@dyfan_dewi Ymddengys y bydd y criw ASau yn gwneud mwy o'r Gymraeg a mwy dros y Gymraeg.
A fydd effaith cadarnhaol yn treiddio i lawr o'r top at bob cangen a chynghorydd i godi llais a sefyll am degwch i ni a'n plant sy'n dymuno byw yn Gymraeg?
Dw i'n fodlon ail-ymaelodi mewn gobaith.
"51% of Welsh Labour voters support independence." They and all the cross party support the issue enjoys in Wales will ensure that Independence remains on the political agenda no matter who controls the Senedd.
https://t.co/wFSbfbtOtA
#Annibyniaeth#indywales#Democracy
@neilwyn @geraint_evs Er mai prifweithredwyr awdurdodau lleol yw prif swyddogion etholiadau, mae'r ddau swydd, yn ôl @Comygymraeg, ar wahan. Dewis yr unigolyn felly yw trin y Gymraeg yn israddol mewn un swydd, gan gefnu ar yr arferion da sy'n dyletswydd cyfreithiol yn ei swydd arall.
@rhysllwyd Mae yna resymau pam fod y Blaid yn Wrecsam yn colli aelodaeth, cefnogaeth a phleidlais ambell berson. I'r Gwyrddion aeth fy mhleidlais rhanbarthol i.
MK’s four sitting councillors on the unitary authority have today been re-elected – Cllr Dick Cole (1,501 votes – 78%), Cllr Loveday Jenkin (1,282 votes – 63%), Cllr Matt Luke (764 votes – 55%) and Cllr Andrew Long (956 votes – 49%).
@DrBScreen Er mai Prif Weithredwyr awdurdodau yw'r swyddogion etholiadol, mae'n swydd ar wahan ac, yn ôl @ComyGymraeg, dim dan y safonau. Felly dewis y prifweithredwyr unigol yw mynd yn groes i'w harferion o ran y Gymraeg yn eu swydd arall. Mae'n arwydd o wrthwynebiad o hyd, yn y bôn.
Dyma enghraifft arall o sut mae cyfalafiaeth yn galluogi cyfoeth i gyflawni anghyfiawnderau echrydus yn difreinio cymunedau brodorol ar draws y byd. Ni ddylai pethau bod fel hyn - mae gan bawb hawl i gartref yn eu cynefin fel braint genedigol.
Y mwya dw i'n defnyddio @eBay_UK@AskeBay, y mwyaf amlwg yw hi bod y wefan yn gweithio o blaid y gwerthwyr, gan adael prynwyr heb fawr dim ffordd i gwyno a chywiro diffygion, methiannau a cholledion.