Mae dros 27,000 o englynion bedd ledled y byd, o 1658 hyd heddiw. Diogelwn ein treftadaeth. Welsh language strict-metre grave elegies - the tradition lives on.
Bedd Robert H. Hughes, Ty Nant, Nantlle yn Ypres/Ieper/Wipers, Gwlad Belg.
Ymddengys ei enw hefyd ar gofeb Chwarel Pen yr Orsedd, Nantlle.
'Tirion frawd mewn estron fro,
"Bob" annwyl o bawb yno.'
Owen T. Williams, 1917 (34), Llanfihangel-y-pennant.
Coffa glan a geir amdano, - yn Ffrainc
Aeth ein ffrind i huno;
Daw heb graith nac ardeb gro,
O’r Dyffryn foreu’r deffro.
Tegfelyn
[1] Bu farw yn Ffrainc a chladdwyd ef yn Bard Cottage Ypres. CWGC.
https://t.co/GTjAP5HiDD
Elias Garmon Owens, 1892-1986, 'Ganwyd ym Maes y Garnedd. Treuliodd 73 o flynyddoedd yn y Gaiman, Patagonia. Bu farw yn Llanuwchllyn.' Capel Garmon; MW.
Uwch daear oer, gwych dy ran
Hedd y Nefoedd yn hafan.