@geiriadur Yn meddwl yn syth am eiriau William Morgan mewn Cymraeg coeth:
Mathew 6:
Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy.
@geiriadur Dim ond yr hen rigwm ddwedodd DJ Williams Abergwaun slawer dydd ar ei record LP. Mae'n ddrwg gennyf na fedraf ei gofio I gyd!
Ash is onnen
Oak is derwen
Holy tree is pren gelynnen.
Bydd yn rhaid chwilio am y record!
@sianmeinir@GlannauOgwr Newydd weld hwn Siân a diolch am ei bostio. Roedd mam Dilys (Mair) a finne yn gyfnitherod cyntaf. Ei mamgu yn chwaer i nhad. Fe godwyd Dilys a finne gyda’n gilydd mwy neu lai. Cyfrifais hi yn fwy o chwaer na chyfnither.
@AledHall Yn llon uwchben Llangrannog-ar ei draed
Cwarter-i-dri yn dalog,
Heb neb yno yn ei annog,
Bwndel o fodel i ‘Vogue’!
Gyda ymddiheuriade am y diffygion cynghaneddol!
@geiriadur Born at Pant-yr-efel, Cwmhiraeth, Penboyr, Carmarthenshire, 1683;son of John ap Gruffydd and Elinor John. Educated in the village school, he afterwards became a shepherd. He then, became a clergyman.
Es i i Ysgol Penboyr ac rwy’n ymfalchio yng ngwaith Gruffydd Jones.