Criw brwdfrydig o bobol ifanc o Ddyffryn Aeron, @ceredigionyfc yn cwrdd bob Nos Lun yn Neuadd Goffa Felinfach am 7.30y.h Cyfeillgar. Cymwynasgar. Croesawgar.
Steddfod CFfI Ceredigion ✅
🪑 Ianto’n ennill y gadair
🎶 Côr Felinfach yn ennill ac yn mynd i steddfod CFfI Cymru
🥉ar ddiwedd y cystadlu
👉 canlyniadau llawn ar Instagram a Facebook
#eisteddfodcffi@CeredigionYFC
Noson cynta Eisteddfod @CeredigionYFC neithiwr.
🥈i Sion Wyn yn y darn heb atalnodi
🥈 i Ella Evans yn yr adroddiad digri
Da iawn i bawb yn y meim ar ddiwedd y noson, ymlaen i ddydd Sadwrn nesaf!
🍁Noson o Ddiolchgarwch🍁
Braf oedd gweld Eglwys Llanfihangel Ystrad yn gyfforddus lawn heno.
Diolch i arweinydd y clwb a ficer y plwyf am ei anerchiad pwrpasol a Mrs Margaret Evans am chwarae’r organ.
Wythnos nesaf bydd noson ffilm yn Neuadd Goffa Felinfach @CeredigionYFC
Nodyn i atgoffa bod Cwrdd Diolchgarwch y clwb nos yfory. Croeso mawr i bawb.
Byddwn yn gwneud casgliad er budd @BloodBikesWales a’r clwb. @CeredigionYFC@CFfICymru
Mae hi’n flwyddyn newydd y C.Ff.I a ma’ C.Ff.I Felinfach yn ôl. Wyt ti’n chwilio am ddiddordeb newydd neu cymdeithasu a chreu ffrindiau newydd? Wel y lle i fod yw nos Lun 11eg o Fedi yn Neuadd Goffa Felinfach am 7.30y.h.
Croeso i unrhywun sydd rhwng 10 a 28 mlwydd oed.
⭐️🚗 HELFA DRYSOR / TREASURE HUNT 🚗⭐️
• Dydd Sul 20fed o Awst / Sunday 20th of August
• Car Cyntaf 3:30yh / First Car 3:30pm
• Dechrau/Start - Neuadd Felinfach Hall
• £5 y car/per car
CROESO CYNNES I BAWB / A WARM WELCOME TO EVERYONE!
⭐️Elusen y flwyddyn⭐️
Roedd yn braf gweld Mared, Alaw ac Erin yn cyflwyno siec i Apêl Cemotherapi Bronglais ar ddechrau’r wythnos.
Rydym yn gwerthfawrogi haelioni pawb yn ein cwrdd diolchgarwch a canu carolau.
@HywelDdaCharity
Yn ein cyfarfod blynyddol nos Lun gwobrwyd y canlynol yn Aelod Hŷn a Iau mwyaf gweithgar y clwb.
Aelod Iau - Erin Davies
Aelod Hŷn - Mared Jones ac Alaw Jones
Neithiwr cynhalwyd cinio blynyddol a chinio dathlu Rali y clwb yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth.
Roedd hi’n noson hwylus, gyda bwyd a chwmni da.
Diolch arbennig i’n Llywydd am eleni sef Haf Hughes am ei chefnogaeth yn ystod y flwyddyn.
Ma dathlu yn y Dyffryn. Llongyfarchiadau mawr i Siôn Wyn ar ddod yn ail fel Aelod Iau y flwyddyn ar lefel Cymru. Top job. Aelodau ac arweinyddion yn browd iawn⭐️👏
Llongyfarchiadau mawr i Endaf Griffiths CFfI Pontsian ar ennill y teitl Aelod Hŷn Cymru. @CeredigionYFC@CFfICymru