@CorSeingar wedi mwynhau bod yn rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi yng Nghaerfyrddin ‘leni - fe fu aelodau yn gorymdeithio yn y dref cyn mynd ymlaen i ganu yn Theatr y Lyric mewn cyngerdd Gŵyl Dewi yn y p’nawn 🎶🌼🏴
‘Gwnewch y pethau bychain.’
PLYGAIN
Diolch o galon i 'Merched y Wawr' Caerfyrddin am y gwahoddiad i berfformio yng nghwasanaeth y Plygain yn Eglwys Crist, gydag elw'r noson yn mynd tuag ymchwil Canser Cymru.
Pleser oedd cael ymuno gyda mudiadau ac eglwysi'r ardal ar gyfer y noson arbennig yma.
Braint oedd cael perfformio mewn cyngerdd - ‘Llyfrau Llafar Cymru’ yn neuadd Bronwydd heno gyda’r lle yn orlawn.
Roedd ‘Pedair’ @Pedair4 yn hollol wefreiddiol - Noson Arbennig.
Cafodd rhai o’r côr gyfle i recordio cân arbennig gan @carys_eleri yr wythnos hon. Diolch i Carys a @branwen.online @cococwtsh am y profiad bendigedig! 🤩🍂🍁🎃
Mae Côr Seingar wedi cyflwyno siec am £2,200 yn rhoddedig i Uned Cemotherapi, Ysbyty Glangwili er cof am ein ffrind annwyl, a chyn-aelod o'r côr, Sian Axford.
Diolch i bawb ddaeth i'n cyngerdd dathlu 20 mlwydd oed y Côr yn neuadd San Pedr 💚 @HywelDdaCharity@HywelDdaHB