✨Penwythnos arbennig o ganu ✨
Atgof o'r Sêr gyda Syr Bryn Terfel ac eraill yn Pontio nos Wener, a chyngerdd i ddathlu gwaith William Mathias yn Neuadd Pritchard Jones neithiwr! 🎶
Wedi ymarferion lu, dyma ni ar drothwy cyngerdd Bryn Terfel a Chyfeillion yn @pontio_bangor nos yfory 🎶
Byddwn yn canu Atgof o'r Sêr gyda chôr JMJ, Syr Bryn Terfel, Meinir Wyn Roberts, Eve Goodman, Mali Elwy ac Iwan Llywelyn-Jones.
✨Welwn ni chi yno ✨
☀️ Wedi seibiant bach dros yr haf, da ni’n barod i ail ddechrau ymarfer ar gyfer y tymor nesaf.
🎶 Mae gennym ni sawl cyngerdd wedi eu trefnu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, gan gynnwys perfformio efo Bryn Terfel!
📸 Lluniau o rai o uhafbwyntiau y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd yn hynod o ddrwg gennym fel côr glywed y newyddion trist am Dewi. Diolch am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru a’i gefnogaeth i’r côr. Braint a phleser oedd cael perfformio Nwy yn y Nen iddo. Rydym yn anfon ein cofion a chydymdeimlad dwysaf at Rhiannon a’r teulu.
🎶🏴 'Rydym wrth ein bodd fod gan Syr Bryn amser yn ei amserlen orlawn i ddod adref i ogledd Cymru i berfformio'
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cyngerdd gyda Syr Bryn Terfel a gwesteion arbennig i nodi dathliadau 140 y brifysgol.
https://t.co/CLnVOExmXu
🎶 Rhai o’n ymarferion diweddar!
Mae’r côr wedi bod yn brysur yn paratoi cyn Pasg ar gyfer nifer o gyngherddau sydd ar y gweill gan gynnwys perfformio yn Wales Distilled Fest ar Ebrill 13 🏴🎤
Blwyddyn Newydd Dda! ✨
Mi fydd Côr Dre yn ail ddechrau ymarfer nos Iau (Ionawr 11) ac mae croeso i aelodau newydd!
Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl i Gapel Caersalem 🎶
Siec wedi’w gyflwyno i @BancBwyd yn dilyn Cyngerdd Nadolig Corau Caernarfon. Penderfynodd aelodau’r côr gyfrannu eitemau tuag at y banc bwyd hefyd! Dyma aelodau o’r pwyllgor yn cyflwyno’r rhoddion
@CorCaernarfon@caernarfon360@papurdre
Blwyddyn Newydd Dda! ✨
Mi fydd Côr Dre yn ail ddechrau ymarfer nos Iau (Ionawr 11) ac mae croeso i aelodau newydd!
Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl i Gapel Caersalem 🎶