Mae rhai o’r tirfeddianwyr sy’n aros i groesawu Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd Boduan 2023 ar eu tir yn dweud nad ydynt wedi derbyn nac arwyddo cytundebau terfynol gyda’r brifwyl.
https://t.co/yTm4TAhIfw
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi annog pobl i wirio pa fath o wasanaeth sydd ei angen arnyn nhw cyn teithio i Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn Llanfrechfa ger Cwmbrân.
https://t.co/M8wv1D8tBx
Mae aelodau'r Blaid Werdd yn yr Alban wedi pleidleisio i hollti ei chysylltiadau gyda'r Blaid Werdd yn Lloegr a Chymru dros dro, a wedi cyhuddo'r blaid honno o fethu ymafael â phroblemau trawsffobia.
https://t.co/h1otA6DCpd
Er mwyn nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod, mae'r elusen o Sir y Fflint wedi bod yn gosod beiciau aur o amgylch yr ardal i gofio am y bobl ifanc sydd wedi marw o ganser.
https://t.co/aOYicMRNR0