7 tasg i gyd yn cael ei roi o 7:30 ymlaen HENO ar Facebook y Sir – croeso i bawb dan 18 i ymuno!
******
7 tasks altogether will be put on at 7:30 onwards TONIGHT on the County’s Facebook – everyone under 18 welcome!
@Nigelrefowens Shwmai Nigel. Tybed a allech chi hala neges breifat aton ni er mwyn trafod rhywbeth cyffrous gallen ni o bosib weithio gyda’n gilydd arno? Ni’n joio gweld shwt ma’r Herefords yn dod mlan gyda chi. Diolch! CFfI Dyffryn Cothi
Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus C.Ff.I Sir Gâr
🗓25/01/2020
📍Ysgol Gynradd Nantgaredig
🕖9yb
Diolch yn fawr i noddwyr y gystadleuaeth eleni sef:
@PincShop
Mr John a Hazel James, Fferm Tyllwyd
@RheWest
Araith hwyliog a phwrpasol gan @AledTyllwyd neithiwr. Siaradwr gwadd gwych, a’i wreiddiau’n ddwfn yn ein hardal ni. Diolch i ti Aled am gofio’r rhan y chwaraeodd DC yn dy daith o ddod yn ddiddanwr, a diolch am fod mor barod i roi yn ôl i’r mudiad arbennig hon #unoni#dawn
Diwrnod llwyddiannus iawn i aelodau CFFI Sir Gar yn Wyl Siarad Cyhoeddus CFFI Cymru dydd Sadwrn 👏🏆🥇
Nifer o dlysau yn dychwelyd i’r Sir gan gynnwys Tarian Ffederasiwn Buddugol yng nghystadleuthau Siarad Cyhoeddus Cymraeg a 3ydd gwobr yn Tarian Buddugol yr Adran Saesneg!!
Perfformiwr dan 18: Gilbert Roberts, C.Ff.I Penybont
Perfformwraig dan 18: Lowri Voyle, C.Ff.I Llanddarog
Perfformiwr dan 26: Deian Thomas a Eirwyn Richards, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Perfformwraig dan 26: Carys Haf Evans, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Cynhyrchydd gorau: C.Ff.I Penybont
Ar ddiwedd yr Eisteddfod neithiwr cipiwyd tarian Elonwy Phillips am nifer o bwyntiau yn yr adran llwyfan gan ddod yn 2il yn brif darian yr Eisteddfod🏆
Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu, diolch hefyd i’r hyfforddwyr ac i’r cefnogwyr a deithiodd i gefnogi’r Sir
#EisteddfodCFFI