📢LLAIS LLWYFAN LLANBED 2025
Ydych chi wedi cofrestru eto? Manylion ar y poster isod. Dyddiad cau: 9 Mehefin. Rhagbrawf: 22 Mehefin. Rownd derfynol: 24 Awst.
Pob dymuniad da i bob unawdydd!
Blwyddyn newydd dda! / Happy new year! 🎉
"Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith?
Nis gwn, fy Nuw; ni fynnwn wybod chwaith.
Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw?
Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law."
(T J Pritchard 1853-1918)
O dawel ysgol Felinfach,
beth heno ddweda' i?
Rhyw ddieithr ddydd sy'n dod yn glou
i'n dyffryn ffrwythlon ni.
Waeth pa mor ffansi neu mor wych
fydd ysgol newydd sbon,
wnawn fyth anghofio'r hyn a fu
yr annwyl ysgol hon.
Diolch Ysgol Gynradd Felinfach 💚💙
22 Hydref
#aydh Ar y dydd hwn yn 1870 (154 bl yn ôl) ganwyd y cyfansoddwr a'r bardd J. Glyn Davies yn Sefton Park, Lerpwl; ef sgwennodd Llongau Caernarfon a Fflat Huw Puw.
Mae ei gyfraniad i ganu gwerin Cymraeg yn ddihafal. Cytuno? Angen ffynhonnell!
https://t.co/ZbB90dygYG
Heb gael cyfle i ddal taith Lleuwen Steffan o amgylch Cymru eto? Dewch i Lanbedr Pont Steffan nos fory (Sul, 6 Hydref) am 7 o'r gloch. Croeso cynnes - a mynediad am ddim!
Ac felly dyma ni. Eisteddfod Gadeiriol Felinfach 2024 yn cloi gyda chadeirydd y pwyllgor gwaith yn cyhoeddi'r canlyniadau olaf, am 1.30 fore Sadwrn.
Dros 12 awr ers croesawu plant bach Ysgol Gynradd Felinfach i'r adran gyfyngedig.
Diolch bawb am eich cefnogaeth.
Mae'n dymor yr oedfaon i ddiolch am y cynhaeaf. Croeso cynnes i aelodau, cyfeillion, ac unrhyw un o'r newydd, ymuno â ni yn ein cyrddau diolchgarwch. Gweler y manylion:
I ble aeth yr haf d’wedwch?!?…(neu ydyn ni’n dal i aros iddo ddechre!!!)🙄🤷🏼♀️
Beth bynnag, mae’n fis Medi a pharhau ma’r steddfodau! Lawrlwythwch raglenni o https://t.co/6W9m7q8wvS 🎶🎹🎤🎭🎨✏️🏴
@EGTregaron@SteddfodYTymbl@Llanwrtydeisted@Eisteddfod_PPT
Mae'n fis Medi - mis Eisteddfod Gadeiriol Felinfach! 🥳 Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar 27 Medi.
Heb gael copi o'r rhaglen eto? Dim problem! Mae copi ar gael arlein - cliciwch ar y ddolen i gael pdf.
https://t.co/khNLT4fWb8
@steddfota16@ygfelinfach@TafarnYVale
Os ydych chi wedi cofrestru, fe ddylech fod wedi cael nodyn (ffôn / tecst / ebost) gyda manylion cyfeilyddion, ynghŷd â gwybodaeth am ragbrofion, lle bo hynny'n berthnasol.
I'ch atgoffa, dyma'r cystadlaethau sydd â rhagbrofion.
Cynhelir y cyfan yn Ysgol Bro Pedr.