Y CURIAD - HENO❗️❗️❗️
Yn anffodus oherwydd y rhybuddion tywydd. Rydym wedi cymryd y penderfyniad i ganslo perfformiad Y CURIAD heno (21 Ionawr)
Y gobaith ydi ail-drefnu a byddwn yn gadael i gwmseriaid wybod yn y dyddiau nesaf
@eisteddfod@Pedair4
📣 Galwad agored am artistiaid i greu Cadair a Choron Eisteddfod 2024.
Mae manylion briff y Gadair a’r Goron ar gael yma - https://t.co/RnVw6ANw9U ynghyd â sut i ddatgan diddordeb a chyflwyno syniadau i’w hystyried gan Fwrdd yr Orsedd.
❌ Y dyddiad cau: 13.10.23 am 17:00
✨ Y Babell Lên ✨
Ni'n hapus iawn i rannu amserlen Y Babell Lên gyda chi ar gyfer #steddfod2023. https://t.co/WJ7XaxtujT
Noddir y Y Babell Lên gan @AcademiHTeifi @Prif_Abertawe
Heno cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog.
Am fwy o wybodaeth, ewch draw i'n gwefan: https://t.co/zzo2yyAWWN
Dyddiadau cau #steddfod2023 yn agosau!
1 Ebrill yw'r dyddiad cau ar gyfer:
⭐Cystadlaethau Cyfansoddi https://t.co/uoqG7IAzSV
⭐Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg https://t.co/HlrzDydPTb
⭐ Medal Syr TH Parry-Williams er clod https://t.co/vLl1rdXXbc
Eisiau cystadlu yn #steddfod2023? Mae ein porth cystadlu newydd sbon yn agor am 12:00 ddydd Mercher! Cliciwch ar y ddolen ar dudalen flaen ein gwefan am ragor o wybodaeth yfory, ac fe welwn ni chi ym Moduan! #cystadlu
Wyt ti’n unigolyn, artist, neu gydweithfa gelfyddol sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru? Rydyn ni’n chwilio i gomisiynu 5 darn o waith celfyddydol newydd dan faner Mas ar y Maes gyda Balchder. Diddordeb?
Rhagor - https://t.co/cM3zu0En70
📷 @iolopenri
Criw gwych yn ymarfer cyntaf Côr #steddfod2023 ac maen nhw’n swnio’n dda! Mae’n amlwg fod ‘na gannoedd o leisiau da yn Llŷn, Eifionydd ac Arfon! Awydd ymuno tro nesaf? Dyw hi ddim yn rhy hwyr. Ffurflen ymuno ar-lein - https://t.co/TtAsUaB0oQ
Dewch i weithio gyda ni! Mae'r tîm yn tyfu! Rydyn ni’n chwilio am unigolion creadigol, brwdfrydig a threfnus ar draws ein timau i weithio ar eisteddfodau'r dyfodol. Pob math o gyfleoedd cyffrous ar gael.
Rhagor ▶️ https://t.co/B5HfP5vDEj
Dewch i ganu efo ni yn @eisteddfod 2023! 😍 Braint fydd cael canu efo cor gwerin o'r ardal a nifer o westeion arbennig mewn perfformiad fydd yn dathlu grym ein diwylliant cerddorol. X
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn neu dim i gydlynu, trefnu a churadu Y Lle Celf #steddfod2023 ac i ddechrau ar y gwaith yn Rhondda Cynon Taf. Cyfle cyffrous i unrhyw un sy'n angerddol am gelfyddydau gweledol yng Nghymru. Dyddiad cau 13 Ionawr
▶️ https://t.co/0yXyrpNlBp
Oes gen ti syniad perffaith am berfformiad neu sioe? Cysyllta â ni heddiw! Rydyn ni'n chwilio am berfformwyr ar gyfer #steddfod2023.
Rhagor ▶️ https://t.co/i3ZJ0o9YDw
Dyddiad cau 23.01.23