Cyflawnwyd asesiad risg o lolfa a neuadd Ty Tawe: bydd lle i 7 o gartrefi gwahanol yn y naill a 12 yn y llall. Bydd yn dda gweld y Ganolfan yn ailagor o dipyn i beth.
Ces sgwrs ddoe â chyfaill dysgedig a resynai bod prifysgolion Cymru wedi rhuthro i ehangu, ac yn awr yn crafu am fyfyrwyr y system glirio. Ochr arall y geiniog yw bod Llywodraeth Cymru'n cynnal cynllun drud 'Seren' i annog ein disgyblion gorau i fynd i brifysgolion Lloegr.