Mae rhestr enillwyr Ysgoloriaeth @Nansi_Richards fel ‘who’s who’ or byd telyn, or cyntaf - Dafydd Huw yn 1983, i @anwenmai3 yn 2021
Llongyfarchiadau mawr Anwen. Telynores arall ir rhestr a derbyn Ysgoloriaeth gwerth £1500
Llongyfarchiadau mawr ir delynores Anwen Mai Thomas, Anwen sydd yn derbyn Ysgoloriaeth Nansi Richards 2021, Ysgoloriaeth o £1500
6 Telynores ddaru ymgeisio am yr ysgoloriaeth eleni.
Diolch ir beirniaid eleni sef Eleri Darkins, Katherine Thomas a Dafydd Huw. Llongyfarchiadau
"John Roberts and his harp family at the Pale in the presence of Victoria. I got it from Eldra Jarman, 30 Jul 1974".
From the archive of Merêd at the National Library.
John Roberts (1816-1894) 'Telynor Cymru' was great grandfather of harpist and author Eldra Jarman (1917–2000).
"John Roberts a'i deulu telynorol yn y Pale' gerbron Fictoria. Fe'i ces gan Eldra Jarman, 30 Gorff 1974".
O archif Merêd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd John Roberts (1816-1894), 'Telynor Cymru' yn hen ddad-cu i'r delynores a'r awdures Eldra Jarman (1917–2000).
Oes rhywun yn adnabod y delyn yma tybed? Un o delynau'r bynting a luniwyd gan ddisgyblion ysgolion cynradd i'r Prosiect Telyn, ac a fu'n addurno'r @TyGwerin yn Eisteddfod Sir Conwy 2019!🎨🎶👍
'The Bardic Museum...', Edward Jones, Llundain, 1802.
Roedd Edward Jones (‘Bardd y Brenin’, 1752-1824) yn delynor, yn gasglwr, ac yn ffigwr amlwg ymhlith Cymry Llundain.
Penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru ym 1796, a casglodd dros 200 o ganeuon Cymraeg traddodiadol.
Trist iawn oedd clywed heddiw am farwolaeth Mair Roberts,Telynores Colwyn. Fel telynores, athrawes ac awdures fe wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i fyd y delyn yng Nghymru. Mair oedd Llywydd Dathliad y delyn, Llanrwst 2018. Melys fydd yr atgofion am delynores a gwraig arbennig ❤
Gwnaeth John Parry (Y Telynor Dall) wasanaeth amhrisiadwy yn cyhoeddi 3 casgliad o alawon Gwerin, ac yn ei lawysgrif o 1741 ceir y copi cynharaf o'r garol 'Nos Galan' (Deck the Halls) https://t.co/5REeOM84w6 #yagym#HanesCymru#Cymru@CerddLLGC Llun: @Museum_Cardiff
Dyma ni @elenhydref yn perfformio trefniant arbennig ‘Yr Hen Rebel’ er côf am ei thaid Richie Thomas ac ei thad Arthur Thomas. Elen gafodd yr Ysgoloriaeth yn 2011
https://t.co/RjtSD5URUo
John Roberts ('Telynor Cymru', 1816-94) a'i deulu yn 1890.
(Albwm Ffotograffau LLGC 1034)
Dysgodd naw o'i blant i ganu'r delyn, a chwarae'r ffidil a'r ffliwt, gan berfformio mewn cyngerdd i'r Frenhines #Fictoria
Mae ei bapurau yma:
https://t.co/4qFiO2vq0C
Telynor Cymreig oedd John Roberts (1816-1894) o Riwlas Isaf, Llanrhaeadr, Sir Ddinbych.
Roedd 'Telynor Cymru' yn rhan o deulu'r #sipsiwn Cymreig, ac yn enwog yn y 19eg ganrif am ganu'r delyn deires. @CDeires
📸 1890 (Albwm Ffotograffau LLGC 2215)
#Telyn a llais
gan Thomas Rowlandson (1756-1827). NLW PZ51
Yn 1797 daeth yr awdur Henry Wigstead ar daith o amgylch #Cymru gyda'r artist Rowlandson.
Cyhoeddwyd 'Remarks on a tour to North and South Wales' ym 1799 gyda 22 acwatint - rhai lluniadau Rowlandson sydd yn y Llyfrgell
Trist iawn i glywed fod @glasdirLlanrwst yn cau. Fe gawsom groeso arbennig yno Fis Mawrth y llynedd i Ddiwrnod Dathlu'r Delyn. Y lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad o'r fath. Meddwl am y staff i gyd 😪
Yn 1973 paentiodd Julius Caesar Ibbetson (1759–1817) ddau bortread o John Smith, y telynor dall o Gonwy. #telyn
1. Darlun olew ohono "with Penillion Singers". (NLW 6043492 )
2. LLGC Gweithiau celf mewn ffrâm, PB08490 .
Yn nyddiau Iolo Morganwg (1747-1826), y delyn rhes sengl oedd fwyaf poblogaidd yn ne Cymru, ond ers y Dadeni roedd y delyn deires hefyd wedi dod yn fwy cyffredin.
📸 David Roberts (‘Telynor Mawddwy’, 1875-1956) telynor dall a chanwr penillion ym 1904. (LLGC Ffoto 2224B)
Cynllun yn dangos safleoedd priodol y gwahanol raddau o feirdd a cherddorion mewn Eisteddfod, a brasluniau o rai offerynnau cerdd.
NLW MS 1464D
Gan Thomas Price 'Carnhuanawc', a'i gopïodd wrth Iolo Morganwg, a'i gopïodd o 'Lyfr Ychtryd' John Jones, Gellilyfdy.
@Collen105
Rhai o aelodau Cymdeithas y Delyn Deires yn diddanu ym Mhortmeirion heddiw.
Some members of Cymdeithas y Delyn Deires (the Welsh Triple Harp Society) entertaining in Portmeirion today. #ydelyndeires#traddodiad#gwerin#cymru#portmeirion