TAFF RAPIDS yn hedfan yn stiwdio Bore Cothi @BBCRadioCymru yr wthnos hon! Diolch am yr hwyl bois! Ma nhw di cyrradd yr Alban nawr yn saff gobitho! #bbcsounds Loved the Welsh Bluegrass on Bore Cothi this week! Listen back on BBC Sounds! ⭐️⭐️👌welai chi am 11 heddi!🥰
Llongyfarchiadau i @OPRACymru Braf gweld bod Fflamau Penyberth ar daith led led Cymru NAWR! Sicrhewch eich tocyn! Diolch i’r bariton Emyr Wyn Jones (sy’n chware DJ Williams) a Bedwyn Lloyd-Phillips yr arweinydd am sgwrs wych am y daith! Pob lwc i chi gyd #borecothi@BBCRadioCymru
Edrych mlan at sgwrs dda da’r Maestro ei hun - Mr Alwyn Humphreys sy’n canolbwyntio heddi ar waith a bywyd y cyfansoddwr odd yn ffrind i gantorion ‘bel canto’ - Donizetti sy’n cal y sylw nesa ar Bore Cothi 🌟👌Diolch Alwyn am ddewis gwych o gerddoriaeth heddi! 🌟@BBCRadioCymru
Iolo Williams sydd yn parhau ar daith ryfeddol ar hyd Sarn Helen, yr hen ffordd Rufeinig @IoloWilliams2
Yr archeolegydd @RhysMwyn sydd yn ei arwain a'r darlithydd Dr Leona Huey @prifysgolbangor a heddiw maen nhw'n ymweld â Thrawscoed 🏺🚶♂️
https://t.co/rnP8Uo7JxY
Edrych mlan i gal sgwrs dda da’r soprano Eiry Price sy di cyrradd rownd derfynol cyst Cantorion Cymreig 2026 sy mlan bnawn Sul yma! Ma na 6 o gantorion disglair yn cystadlu am y fraint o gynrychioli Cymru yng Nghanwr y Byd yn 2027! #borecothi@BBCRadioCymru 🌟
Am gwpwl smart heddi ar Bore Cothi @BBCRadioCymru Diolch i’r disglair Daniel Jenkins Jones am hedfan fewn i’r stiwdio i drafod Mr & Mrs Hwyaden Wyllt fel Deryn y Mis. Mor ddiddorol i ddysgu mwy am natur eu llwyddiant ag am y ffordd maent yn cadw’r trad na’n gynnes! Gwych Daniel!
Diolch i Lowri Jenkins am sgwrs wych ag am rannu’r wybodaeth ynglyn a Llyfrgelloedd Benthyg Cymru. Syniad da. Sdim ishe gwario ffortiwn ar ryw chwythwr dail neu declyn clanhau carped os taw cwpwl o withe chi’n mynd i ddefnyddio nhw! #borecothi@BBCRadioCymru
Diolch o galon i Gadeirydd Theatr y Garreg Las Geraint Jones am sgwrs hyfryd ar Bore Cothi @BBCRadioCymru am Gwmni Theatr y Garreg Las sy wrthi’n ymarfer yn barod ar gyfer Cyngerdd Cymylau Amser ar Chwef 3ydd a’r 4ydd Dal cyfle i chi ymuno da’r cwmni! Pob lwc! #borecothi
Braf cal sgwrs mor ddiddorol da Gruff Jones o Ruthin ar Bore Cothi @BBCRadioCymru am ei sianel @tiktok#CarnauCymru Mae Gruff di dechre gwasanaeth arbennig yn trin carnau gwartheg dros Gogledd Ddwyrain y wlad a ma fe mor fishi. Hefyd allwch chi weld e wrth ei waith ar Tik Tok! 👌
Edrych mlan i gal sgwrs dda da’r arweinyddes Nia Clwyd am hanes Cor Bois y Castell sy’n dathlu’r 30 eleni! Ma Nia wedi ei harwain ers y cychwyn cynta ag yn edrych mlan at y cyngerdd dathlu arbennig nos Sad yma sef Tach 28ain 🌟👌@BBCRadioCymru#borecothi Penblwydd Hapus Bois!
GWALLT! Cwrls, Bobs, Fflics a phob dim arall blewog yn cal ei drafod heddi ar Bore Cothi @BBCRadioCymru yng nghwmni Wendigedig - edrych mlan i fynd i’r Salon gwallt bore ma at Wendy i ddala lan da’r trends diweddaraf i dymor y partion Dolig! 😍😘#borecothi
How can theatre be more relevant? It’s thrilling to be here. It’s thrilling to watch. This is what a Welsh National Theatre is for ✍️Desmond Clifford https://t.co/g7y5JmGT3W
Diolch i Julie Howartson @JulieHowatsonBr Salon Visage yn Ninbych am gyngor ynglyn a shwd i edrych ar ol y croen yr adeg yma o’r flwyddyn o’r tu fewn i’r tu allan! Lles yn bwysig o ran y ddeiet a’r gofal croen - cyngor doeth gan Julie & angen DWRHAU! #borecothi@BBCRadioCymru 🌟
Dyma Twm Tegid #twmtegs ar Insta - yn ei holl ogoniant ar lwyfan opera. Llongyfarchiadau ar gyrradd y rownd derfynol Cyst y Cantorion Cymraeg ar Dach 29ain am 2.30yp yn Neuadd y Brifysgol @cardiffuni Pob lwc Twm a diolch am sgwrs hyfryd ar Bore Cothi 👍👌🌟@BBCRadioCymru
Edrych mlan i gal sgwrs da Twm Tegid y bariton disglair sy di cyrradd rownd derfynol cystadleuaeth Cantorion Cymraeg 2026 sy’n digwydd Tachwedd 29 am 2.30yp yn Neuadd y Brifysgol @cardiffuni Croeso i bawb i glywed y lleisiau godidog yma. Twm da fi nesa @BBCRadioCymru#borecothi
Oh what's occurrin'? 👀😅
All Blacks? Done. Wallabies? Next up. Nessa's got a few words of inspiration for the boys ahead of the weekend... 👏🏴
Cefnogi'r bois 🎟 https://t.co/3ZxGIGRBsV
#CymruAmByth