Cafon ni'r fraint o gynnal talwrn gyda rhai o leisiau mwyaf blaengar ein barddoniaeth Medi y llynedd! Gan gynnwys TDJ, Tudur Hallam a @NeiKaradog ac aelodau amryddawn @YsgolFarddol - roedd eu cyfraniad yn anhygoel tuag at noson wych o adloniant!! #diwrnodbarddoniaethybyd
Dewch i Glwb Rygbi’r Quins Caerfyrddin nos Fercher yma am 7yh i lansio ‘PARCIO’ gan Tudur Hallam. Mins pei a gwin cynnes i bawb! 🍷🥧🎄Mynediad am ddim - dewch yn llu! #yagym@YsgolFarddol@CymraegAbertawe @AcademiHTeifi @drindoddewisant
Diolch i bawb a ddaeth ac a gyfrannodd i greu noson hyfryd o farddoni, chwedleua a pherfformio. Diolch i @caffilolfa am ein croesawu i Borth Tywyn ac i @IHefin am ein diddanu â’i straeon difyr ac egsotig! Braf cael cwmni @MariArthur hefyd â hithau ar ganol ei hymgyrch etholiadol.
Cofiwch am hyn, heno!!
Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni ym Mhorth Tywyn am lawer o ddiddanwch, barddoni a chymdeithasu.
Mynediad Am Ddim! Dechrau am 8
Mae’n bleser cyhoeddi fod noson Torri Tir yn cael ei chynnal wythnos i fory! Y tro hyn byddwn yn mynd i Borth Tywyn ac yn cydweithio gyda @TTywyn yn ein cartref newydd @caffilolfa.
Noson o farddoni a diddanwch yng nghwmni ein gwestai Arbennig @IHefin a beirdd y tŷ.
#yagym
Henffych! Wele wahoddiad i chi ddod i fwynhau yng nghwmni Prifardd @eisteddfod Llanrwst, @Jimparcnest nos fercher hyn yn @yr_egin.
Croeso mawr i bawb!
#yagym
Gwych yw gweld nifer a oedd wedi cyfrannu'n wych yn ystod noson Talwrn y Tywyn yn cymryd rhan yn yr wyl arbennig hon, a nifer o feirdd penigamp eraill yn bresennol hefyd! #yagym#cymraeg
Talwrn y Beirdd Bancosfelen! Nos iau am 7.
Cwm Gwendraeth v @YsgolFarddol Caerfyrddin
Gyda’r Prifardd-Feuryn Ceri Wyn Jones
(Ac os nad yw gwledd farddol yn ddigon, bydd yffach o gwd sbred o gacs a sangwidjis ed).
Cofiwch hefyd am wledd @SteddfodBanc ar ddydd sadwrn.
#Yagym
Mae’n braf derbyn cyment o gefnogeth gan @CymraegAbertawe a phleser yw cadarnhau y byddaf yn cyflwyno fy ngwaith ymchwil (o‘r diwedd!) erbyn dydd Llun! Diolch o galon i `nghyfarwyddwr ymchwil, yr Athro-Brifardd Tudur Hallam (a simo fe wedi `nhalu fi i weud fod #Parcio yn wych!).