⚽️🥇 ⚽️PENCAMPWYR!!! ⚽️🥇 ⚽️
Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed 5-bob-ochr yr ysgol ar ennill twrnament yr Urdd i ysgolion bach yn Llangrannog yr wythnos hon. Hip Hip Hwrê 🥳
@UrddCeredigion@chwaraeonyrurdd
Cafwyd noson hyfryd ym mhrom Cynradd Ceredigion. Braf oedd gweld disgyblion blwyddyn 6, y Parti Unsain, a Neli'n perfformio ar lwyfan y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau. @CeredigionCC@aberystwytharts@UrddCeredigion
🎱TOMOS A SÊR Y BYD SNWCER🎱
Cafodd Tomos brofiad a hanner y mis diwethaf wrth iddo chwarae gêm o snwcer fel partner i'r enwog Shaun Murphy @Magician147 , yn erbyn yr enwog John Parrott a'i bartner. Ry'n ni'n hynod o falch ohonot ti, Tomos!
Diolch I @cffiCaerwedros am y gwahoddiad I gymryd rhan yn eu cyngerdd o dalentau lleol yn ddiweddar. Dyna beth oedd gwledd o adloniant. Da iawn I bawb am ddiddanu'r gynulleidfa gyda chystel graen - Arbennig! @ngcaerwedros@cwilt360
🤖 Wythnos Roboteg 🤖
Llongyfarchiadau i dimoedd Bl.4-6 am gystadlu yng Ngemau Robotiaid Ceredigion heddiw. Aeth ein timoedd i Brifysgol Aberystwyth er mwyn creu a rheoli robot mewn cyfres o gampau.
@ErylJones12@KayVobeMorris@Prifysgol_Aber@AberRobotics
⚽️🏴PENCAMPWYR CYMRU!! ⚽️🏴Llongyfarchiadau MAWR i dîm pêl-droed 5 bob ochr yr ysgol am gipio'r tlws yn Ngŵyl yr Urdd dros y penwythnos. Wel am ddiwrnod llawn cyffro a Talgarreg ar y map unwaith yn rhagor! 👏🌟⚽️🏴🤩
🌟🌟Llwyddiant mawr i Ysgol Talgarreg yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd Ceredigion! 🎨🖌️🌟🌟 Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonyn nhw. Arbennig wir! Pob lwc i Efan ac Elis yn y Genedlaethol!
⚽️⚽️POB LWC! ⚽️⚽️Pob lwc i dîm pêl-droed 5 bob ochr Ysgol Talgarreg a fydd yn cynrychioli Ceredigion yng Ngŵyl Gynradd yr Urdd yfory. Ewch amdani bois bach! ⚽️⚽️
CANLYNIADAU CERDD DANT EISTEDDFOD CYLCH AERON 2023
CYLCH AERON - CERDD DANT RESULTS!
Llongyfarchiadau mawr i bawb!🌟🎼🎉
Congratulations to all that competed!
CANLYNIADAU'R PARTION UNSAIN EISTEDDFOD CYLCH AERON 2023
CYLCH AERON - EISTEDDFOD RESULTS!
Llongyfarchiadau mawr i bawb!🌟🎼🎉
Congratulations to all that competed!