#DyddMiwsigCymru 🏴 🎶
Diolch i Mrs Pugh a Chriw Tanio’r Ddraig am drefnu heddiw. Diwrnod i ddathlu cerddoriaeth Cymraeg ar draws yr ysgol gan gynnwys ein rhieni. Gwych! Diolch am eich cefnogaeth eto.
Diolch i’n llywodraethwraig sydd â chyfrifoldeb dros lythrennedd am ymweld â ni er mwyn monitro agwedd o ddarllen yn y cyfnod cynradd. Cafodd y dysgwyr y dasg o gywain gwybodaeth am Barti Ddu, trwy adrodd yn ôl fel grŵp. 🏴☠️
❤️ Dydd Santes Dwynwen hapus i bawb. ❤️
Mae plant y dosbarth dysgu sylfaen wedi bod yn creu adduriadau eleni i ddangos eu cariad a’r plant hynaf wedi bod yn ysgrifennu cerddi serch. #santesdwynwen
🙏 Thema ein myfyrdodau yr wythnos hon oedd Dŵr. Rydym wedi bod yn astudio straeon Beiblaidd sy’n trafod yr elfen bwysig yma. 💦
Ahoi!
Mae’r plant yma wedi mwynhau dechrau ein thema newydd. Mae nhw wedi dysgu cymaint yn barod ac yn frwdfrydig wrth rannu eu canfyddiadau.
Aeth pethau o ddrwg i waeth gyda chynllunio grŵp Erfyl! Syniad gwych… ond pa amser sydd gennym i aros i’r tors godi? Trwy’r dydd i greu un coeden!
Gwerthusiadau arbennig ar lafar ac yn ysgrifenedig! Back to the drawing board! Ceisiwn eto fory!
Tîm Garthbeibio…
Coginio, treialu a rhewi ein cacen lemon yn barod ar gyfer ein swper! Da iawn dîm! Meddwl chwim a chynllunio trwyadl! Diolch i Mrs Bennet- un o wirfoddolwyr mwyaf arbennig Ysgol Cwm Banwy. ❤️ Ymunwch â ni!
Wel yn wir, mae’r plant wrth eu boddau yn datblygu eu medrau coginio ar hyn o bryd, yn barod ar gyfer ein Swper Swynol!
Y tro hwn, pitsa’s o bob lliw a llun oedd ar y fwydlen, a’r cyfan wedi eu paratoi o’r newydd gan holl blant yr ysgol. Da iawn chi! 🍕 @Fun_Food_Chef
🎅🏼 💰 🌈 💰 🧑🎄 💰
Dyma dasg entrepreneuraidd dysgwyr y dosbarth sylfaen. I ddylunio a gwneud addurn Nadolig ar gyfer eu gwerthu ar noson ein Swper Swynol.
Mae’r plant wedi bod yn brysur ymchwilio dylunio ac yn treialu.
A fyddent yn gwneud elw? 🎅🏼 💰@powyseducation
👨🍳 Diolch i Steve un o brif gogyddion Castell Howell am ymuno â ni’r prynhawn ‘ma trwy drafod prif syniadau tîm Cadfan, Erfyl a Garthbeibio ar gyfer eu bwydlen Nadoligaidd. Roedd gwerthusiadau manwl ar lafar, a rhai addasiadau yn dilyn ei gyngor a’i arbenigedd.🎅🏼
@powyseducation
🙏 Thema ein gwasanaethau Addoli ar y Cyd oedd Annog Ein Gilydd. Heb os nac oni bai mae’r criw yn gweithio fel tîm ar hyn o bryd er mwyn cyflawni eu targedau uchelgeisiol ar gyfer ein Swper Swynol. Rhaid annog ein gilydd i ddatrys problemau… y fwydlen, y cynhwysion, y cyllid!
Ffa aur am ddarllen!
Diolch i Griw Tanio’r Ddraig ac i Mrs Pugh am gynnal sesiwn diwedd ‘pnawn yn esbonio ein strategaeth newydd o hybu darllen, un o flaenoriaethau’r ysgol, wrth ennill ffa AUR!
Diolch rieni am fynychu. @PowysCC
Diwrnod Byd Eang y Plant heddiw. Diolch am y cyflwyniad gwych gan #Esgol oedd yn atgoffa’r plant am eu hawliau yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.
Peth da, roeddent yn ymwybodol iawn ohonynt.
#hawliauplant Rydym yn hoff iawn o’n wal Helfa’r Hawliau.