Dydd Mercher (02/10), mi fyddwn ni'n ymuno a @cangen_caerdydd ac @UMCC22 mewn digwyddiad i groesawu Glasfyfyrwyr Caerdydd ac i rannu'r cyfleoedd sydd i'w cael o astudio a chymdeithasu yn y Gymraeg - dewch yn llu!
⏰16:00
📍Y Lle, 53 Park Place
Cyngerdd Nadolig Aelwyd y Waun Ddyfal🎄
Nos Wener Rhagfyr 8fed, 19.30 yng Nghapel y Tabernacl, Caerdydd, CF10 1AJ.
Mae 2Wish yn elusen sy’n agos iawn i aelodau’r côr, ac yn cefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plant a phobl ifanc💙
Dewch yn llu!💫
❤️ ‘Fysa Josh wedi bod wrth ei fodd efo’r her.’
Bydd tîm pêl-droed y Gym Gym yng Nghaerdydd yn rhedeg 456 milltir i godi arian at elusen er cof am Joshua Lloyd Roberts o Gaernarfon.
@YGymGym@gymgympeldroed
Dani fel tim yn mynd i godi arian tuag at yr elusen '2wish' drwy dyfu 'tash' a rhedeg cyfanswm o 456 milltir rhwng aelodau'r tim. Mi fydd pob cyfraniad yn cael ei werthfawrogi. Diolch yn fawr.
❤️💙
https://t.co/z8T8TknL9J
'O'dd Josh yn fwrlwm o fywyd. O'dd o'n un o fil'
Teyrnged Catrin Edith Parry ar ran myfyrwyr Caerdydd i'w ffrind Joshua Lloyd Roberts fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon
❤️🩹 Cofia, ar adegau fel hyn mae’n bwysig siarad a dod at ein gilydd, os yw hynny’n beint hefo ffrind neu’n sgwrs hefo rhywun, mae cymorth wastad yno.
https://t.co/X7NsLLHQaO
Newyddion torcalonus wedi’n cyrraedd ni ddydd Sadwrn ar golled Josh, aelod ffyddiog, poblogaidd a llawn egni o’r gymuned Gymraeg yma yng Nghaerdydd, mawr fydd ei golled. Cofiwn at ei ffrindiau, ei deulu a pawb oedd yn ei nabod 💙💔
Newyddion torcalonus wedi’n cyrraedd ni ddydd Sadwrn ar golled Josh, aelod ffyddiog, poblogaidd a llawn egni o’r gymuned Gymraeg yma yng Nghaerdydd, mawr fydd ei golled. Cofiwn at ei ffrindiau, ei deulu a pawb oedd yn ei nabod 💙💔
Mae angen "sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld, ei chlywed a'i pharchu" yn ôl Is-Lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Cafodd Deio Owen, sydd o Bwllheli yn wreiddiol, ei ethol yr wythnos hon.
@DeioOwen@undebmyfyrwyr