Ymdrech yr wythnos!
Rydym bron wedi cyrraedd hanner tymor, ac mae’r plant yn dal i weithio’n galed.
Da iawn i’r tri yma ac hefyd i Gymro’r wythnos!
Well done to these 4! We have nearly made it to half term, and the children are still working hard.
Da iawn i bawb a gymerodd ran heddiw yn nhwrnamaint pêl-droed yr Urdd yn Y Drenewydd.
Cyrhaeddodd merched blwyddyn 5 a 6 ac un o dimau cymysg blwyddyn 3 a 4 rownd yr wyth olaf.
Diwrnod llawn cyffro gyda phawb yn trio eu gorau glas. ⚽️
Ymdrech yr wythnos dosbarth y Bont a dosbarth Efyrnwy.
Yn anffodus roedd y bachgen a oedd wedi ennill Ymdrech yr wythnos yn nosbarth Mathrafal yn sâl heddiw ond roedd ei frawd yn ddigon caredig i’w gasglu ar ei gyfer, a fo a gafodd ymdrech yr wythnos dosbarth Efyrnwy hefyd.
Llongyfarchiadau i Olivia am ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth cynllunio logo ar gyfer ein canmlwyddiant.
Bydd nwyddau gyda’r logo ar werth ar Hydref 20fed.
Llongyfarchiadau hefyd i Erin a ddaeth yn ail a Gethin a ddaeth yn drydydd.
Diwrnod addysg cydberthnasoedd a rhywioldeb.
Treuliodd blwyddyn 5 a 6 y diwrnod yn Ysgol Bro Caereinion ddoe gyda ysgolion eraill y clwstwr.
Relationship and sexuality education day.
Years 5 and 6 spent the day at Ysgol Bro Caereinion yesterday with other schools fTom the cluster
Diolch i Georgie Armstrong am ddod i’r Ysgol i wneud sioe cŵn. Roedd y plant wrth eu bodd yn gweld sut roedden nhw yn chwilio am bobl oedd ar goll 📷 ac yn cyfarfod â’r ci bach newydd!
Thank you to Georgie Armstrong for coming to school to do a dog show.
Da iawn i‘r plant a‘r staff am eu gwaith caled dros yr wythnosau diwethaf. Mae’r Ysgol wedi dod yn 1af yng nghystadleuaeth harddu Ysgol! 🏴Buom yn dathlu gyda chacen coch, gwyn a gwyrdd 🔴⚪️🟢 Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 @EisteddfodUrdd
Rydyn ni’n falch o gefnogi neges #heddwch2024@Urdd Dyma ein gwaith celf, ein barcud yn llawn o’n negeseuon heddwch a’n symbol o heddwch. Diolch i ddisgyblion blwyddyn 3 am arwain ein gwasanaeth. We’re proud to be supporting the Urdd peace message for 2024
Cawsom fore gwych yn llawn canu a dawnsio! Diolch i Cyw am ymweld â ni heddiw. S4C @Cyws4c
We had a fantastic morning, full of singing and dancing! Thank you to Cyw for visiting today.
Diolch yn fawr i @MewnCymeriad am gyflwyno hanes Syr Ifan i ni mor wych heddiw. Roedd y plant wedi wir mwynhau y sioe.
The children thoroughly enjoyed the show today presenting the history of Sir Ifan, the founder of Urdd Gobaith Cymru.
Traws gwlad 🏃♂️🏃♀️🏴
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y traws gwlad ddoe yn Ysgol Bro Caereinion
Pawb wedi trio eu gorau glas
Cross country 🏃♂️🏃♀️👏
Congratulations to everyone that took part in the cross country competition yesterday.
Everyone tried their very best
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran yn yr Eisteddfod ddawns heno. Roedd pawb ohonoch yn wych 👏! Dylech chi i gyd fod yn falch iawn ohonoch chi’ch hun.
Da iawn i’r grwp dawnsio gwerin am ddod yn ail. Bydden nhw’n cynrychioli’r Ysgol yn Eisteddfod sir yn y Drenewydd!