'Nid oes dim yn y byd wedi ei garu yn ormodol, ond mae digon wedi eu caru yn anghywir a llawer yn rhy annigonol' ... Darllenwch erthygl Pryderi Llwyd Jones am Thomas Traherne (c.1637–74) yn Rhifyn Gorffennaf Y Traethodydd: https://t.co/3dsm8xreHC
"Gwerthu capel yn codi pryder dros fynediad i fynwent" https://t.co/V84OIt780k
Darllenwch mwy am dynged cofebau rhyfel mewn capeli sy'n cael eu gwerthu yn ysgrif Gethin Matthews yn Y Traethodydd, rhifyn Gorffennaf 2022: https://t.co/3dsm8xrMxa
@WelshMemorials#YTraethodydd
Yn y gyntaf o ddwy erthygl, yn rhifyn Gorffennaf @YTraethodydd cyflwyna #PryderiLlwydJones fewnwelediad i ni o'r bardd metaffisgeol Seisinig Thomas Treherne. Creodd #TommDenny bedair ffenestr goffa i Treherne yng nghapel Audley, Cadeirlan Henffordd; fe'i cyflwynwyd yn 2007.
"Camp a Rhemp Bardd Mawr Môn", "Cofio Saunders Lewis yr un Pryd" a "Hwyl a Helynt Hen Eisteddfodau Môn". Teitlau rhai o drysorau casgliad gwerthfawr o ysgrifau llenyddol gan un o’r craffaf o’n beirniaid #DafyddGlynJones. Adolygiad #DafyddJohnston@YTraethodydd Gorffennaf 2022.
Cyfeiriwyd at almanaciau Gwilym Howel o Lanidloes mewn erthygl ar 'Gyfryngau addysg lenyddol a moesol cenedl y Cymru' yn @YTraethodydd ym 1859. Cawn eu hystyried eto yn rhifyn Gorffennaf 2022 mewn dadnsoddiad gan #CynfaelLake un o’n harbenigwyr pennaf ar lên boblogaidd y cyfnod.
Darllenwch waith y beirdd yn rhifyn Gorffennaf o'r Traethodydd; Dafydd M. Job a John Emyr y tro hwn.
Hyn a llawer iawn mwy yn cylchgrawn llenyddol hynaf Cymru: https://t.co/3dsm8xreHC
Yn 1922, dadorchuddiwyd ffenestr goffa i Stephen Hughes, Apostol Sir Gaerfyrddin yng nghapel #HeolAwst gan O.L.Roberts, Lerpwl. Yn rhifyn Gorffennaf @YTraethodydd ceir cyfle i ddarllen a dysgu mwy am y gwron arbennig hwn mewn darlith a gyflwynwyd i @carm_ant gan @densil_d.
Ar drothwy'r Eisteddfod darllenwch am Ieuan Fardd ac Edward Richard, dau o feirdd Ceredigion y cyhoeddwyd eu gwaith yn almanaciau 'awenyddol' Gwilym Howel.
I fyny ar y llethr serth tu nôl i Fferm Cwmhwplyn #Dolgran#Pencader lleolir 'Ogof Cwmhwplyn' - yn y guddfan hon bu Stephen Hughes yn arwain addoliad yn y 17eg Ganrif. Cer hanes Apostol Sir Gaerfyrddin mewn erthygl gan @densil_d yn rhifyn Gorffennaf @YTraethodydd.
Mae Rhifyn Gorffennaf ar y ffordd!
Dyma cip olwg ar y clawr.
Cofiwch, mae'n bosib i chi prynu rhifynnau unigol neu danysgrifio ar lein i flwyddyn gyfan o Gylchgrawn Y Traethodydd – yr hynaf o’n cylchgronau Cymraeg: https://t.co/OGtVZ7SbX6
Mae Sul y Tadau ar y gweill!
Beth am danysgrifiad i’r Traethodydd yn anrheg i rywun 'lenni?
Gallwch brynu ôl gopïau iddynt neu danysgrifiad ar gyfer 2022 am £20.
Dilynwch y ddolen yma a chofiwch nodi eich bod chi'n prynu fel anrheg: https://t.co/3dsm8xreHC
Richard Price: athronydd byd-enwog, ffigwr politicaidd pwysig, mathemategydd arwyddocaol, ‘mae’n syndod i mi cyn lleied o sylw i ni fel Cymry wedi ei roi i Price’; John Heywood Thomas sy’n adolygu llyfr diweddaraf Cynog Davies yn Y Traethodydd.
Beth yw cenedlaetholdeb? Rhifyn mis Ebrill Y Traethodydd yn gofyn cwestiynau mawr.
Ydych chi wedi tanysgrifio eto? Blwyddyn gyfan am £20: https://t.co/3dsm8x9Dj2
Y ‘disglair a’r diymhongar’ John Fitzgerald ... D. Densil Morgan sy’n tafoli llyfr Ioan Roberts, Gwinllan a Roddwyd: Hanes Y Cylch Catholig yn Rhifyn Ebrill Y Traethodydd: https://t.co/3dsm8x9Dj2
Bu'r Ficer Pritchard wrthi yn ceisio dehongli Pla Llundain 1625. Mae'n ystyried perthnasedd profiad Llundain o'r pla i'r Cymry. Beth tybed fyddai gan y Ficer i ddweud am pandemig #COVID19 yr 21ain Ganrif? Beth am ddarllen erthygl #DewiAlter yn rhifyn Ebrill 2022 Y Traethodydd?
@gwion_owain @RWynJones Does dim modd ei ddarllen ar y we yn anffodus, copiau caled yn unig. Gallwch brynnu eich copi, neu tanysgrifio yma: https://t.co/3dsm8xrMxa