❗️Rydym wedi penderfynu rhoi’r gorau i rannu newyddion yr ysgol ar X
📣Rydym bellach yn rhannu newyddion yr ysgol drwy ein tudalen Facebook:
https://t.co/onZqVV4trI
Er y tywydd gwael ⛈️⛈️💨💨 cafwyd Gwyl Rygbi arbenig iawn i ddisgyblion Bl6 y dalgylch wedi ei drefnu gan arweinwyr Rygbi Bl11 @Godrer_Berwyn@RygbiBala@BMeirionnydd
Diwrnod gwych yng Nghystadlaethau
TAG Meirionnydd heddiw 🏉🤩
Canlyniadau:
TAG Merched 🏆
🥇@Godrer_Berwyn
🥈 Cysgod y Foel
TAG Cymysg Bl 3-4 🏆
🥇@YsgolOMEdwards
🥈 @Ysg_BroTryweryn
Da iawn chi 👏
Diolch i @BroFfestiniog am y croeso a defnydd y caeau a’r clwb 🏉
Cafwyd dwy Oedfa Ddiolchgarwch fendithiol unwaith eto heddiw. Diolch i Ysgol O M Edwards am ein harwain yn yr Hen Gapel, ac i’r Parchedig Christopher Prew am ein harwain yn Eglwys Crist. Hyfryd hefyd oedd cael mwynhau paned ar ôl yr oedfa heno - diolch i’r rhai fu’n paratoi.
🚴🏻WYTHNOS BEICIO I’R YSGOL🚴🏻
Llongyfarchiadau i‘r criw ffit yma am gymryd rhan yn ein Wythnos Beicio i’r Ysgol! Ymdrech arbennig gan bob un ohonynt! 😃
Congratulations to everyone that took part in the Cycling To School Week! An excellent effort! 😃
#IechydaLles
Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi Bore Coffi Macmillan yn yr ysgol heddiw. Diolch i’r Pwyllgor lleol am drefnu ac i bawb arall am yr holl gyfraniadau. 💚☕️🍰 Codwyd £330!👏
📖 BEIBL MARI JONES 📖
Roedd yna gyffro heddiw wrth i Feibl gwreiddiol Mari Jones gyrraedd Ysgol OM!😄
Mae’r Beibl yn cael ei gadw fel rheol yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt , ond diolch i Carwyn Siddall a Dr Onesimus am ddod â’r Beibl i ni gael ei weld! 🤩
@EglwysiLlanRhos
Braint inni heddiw oedd cael cwmni criw o ferched o bedwar ban byd! Cawsom gyfle i sgwrsio a dysgu cyfarch ‘helo’ mewn sawl iaith. Diolch i Carwyn Siddall am drefnu inni gael eu cyfarfod. @EglwysiLlanRhos@cwmission
A dyna ni am flwyddyn arall!😃
Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at flwyddyn lwyddiannus iawn arall i ni fel ysgol.
Yn blant, yn staff, yn rieni, yn wirfoddolwyr…
Mae pawb wedi chwarae eu rhan i sicrhau blwyddyn i’w gofio ❤️💚
Mwynhewch y gwyliau!☀️
Trist iawn oedd gorfod ffarwelio gyda Miss Evans heddiw wrth i’w chyfnod fel athrawes yn OM ddod i ben 🥲👋
Rydym wedi bod yn hynod ffodus o’i chael yn athrawes gyda ni am y ddwy flynedd ddiwethaf 💖
Pob hwyl i chi yn Ysgol Llanfyllin fis Medi a diolch o galon am bob dim!😃
❤️Cafwyd bore emosiynol iawn wrth i ni gynnal ein Gwasanaeth Ffarwelio Bl.6. Gwnaeth y plant eu gwaith yn wych a diolch yn fawr i’r rhieni am eu cefnogaeth
Rydym yn dymuno’r gorau i griw arbennig sydd wedi cyfrannu gymaint i lwyddiant yr ysgol ar hyd y blynyddoedd! 👋🥲
🏏🥉 ROWNDIAU TERFYNOL GOGLEDD A CHANOLBARTH CYMRU🥉🏏
Cafwyd diwrnod ardderchog yn @ColwynBayCC wrth i dîm bl.5 a 6 gystadlu yn Rowndiau Terfynol Gogledd a Chanolbarth Cymru @CricketWales 🤩
Gwnaeth y tîm yn wych i gipio’r trydydd safle. Campus, blant!🥉
@SAWcricketwales
Braf oedd croesawu ffrindiau o Batagonia i’r ysgol heddiw. Cawsom gyfle i siarad Cymraeg a Sbaeneg a dysgu mwy am yr Ariannin. Diolch yn fawr iawn am ganu, dawnsio a sgwrsio â ni.
Muchas gracias!
Diolch hefyd i blant y côr am gymryd rhan yn wych yn y Cyngerdd neithiwr.🎶
⚽️😃 GŴYL CWPAN Y MIDLAND😃⚽️
Cafwyd bore bendigedig o bêl-droed yn @BalaTownFC wrth i bedwar tîm o’r ysgol gystadlu yng Ngŵyl Cwpan y Midland.
Ymdrech arbennig gan bawb a digon o goliau gwych!😃
Llongyfarchiadau i dîm A ar ddod yn 3ydd 🥉(ac am beidio a cholli yr un g��m!)
🏏🥇PENCAMPWYR ERYRI🥇🏏
Llongyfarchiadau anferthol i dîm criced bl.5 a 6 ar gael eu coroni’n bencampwyr Eryri @CricketWales heddiw!🥇
Cafwyd diwrnod i’w gofio yn @BangorCricket wrth i ni ennill pob un gêm!
Ymlaen â ni i rowndiau terfynol Gogledd a Chanolbarth Cymru nesaf!🏏😃
@SAWcricketwales @bangor_cricket@YsgolTregarth Thanks again for organising a great day and for giving the children an opportunity to develop their skills!
Diolch yn fawr!🏏😃
Mwynhaodd dimau criced bl.3 a 4 ddiwrnod gwych yn Nolgellau heddiw, wrth iddynt gystadlu yng Nghystadleuaeth Criced Meirionnydd yr Urdd. Roedd y tri tîm wedi cystadlu’n wych! Llongyfarchiadau mawr i dîm B ar ddod yn ail yn dilyn rownd derfynol agos iawn yn erbyn Ysgol Penybryn🏏