W E Morris and E J Evans warping at Esgair Moel Woollen Mill, April 1961. The mill was moved to the Museum in 1949, opened to the public in 1952, and Museum craftsmen continued with the work of processing the wool at the mill, from dyeing the fleece to finishing the fabric.
W E Morris ac E J Evans yn paratoi gwlân ym Melin Wlân Esgair Moel, Ebrill 1961. Symudwyd y felin i AWC yn 1949, ei hagor i’r cyhoedd yn 1952, a pharhaodd crefftwyr yr Amgueddfa gyda'r gwaith o gynhyrchu brethyn, gan ymgymryd â’r holl brosesu, o liwio'r cnu i orffen y defnydd.
Harvesting hay at the Museum on a glorious summer’s day, nearly a quarter of a century ago, in July 1996. The Gwalia Stores and Oakdale Workmen’s Institute can be seen in the background. #MuseumFromHome
Cynaeafu gwair ar ddiwrnod godidog o Haf yn Amgueddfa Werin Cymru bron i chwarter canrif yn ôl ym mis Gorffennaf 1996. Gellir gweld Siop Gwalia a Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, yn y cefndir.
Pant, Abergorlech, Carmarthenshire, about 1912-14, home to the singer, balladeer and entertainer Bertie Stephens. He recorded over 80 songs for the Archive, many he remembered being performed at local fairs he visited as a boy. More on Bertie here: https://t.co/3sLn2VU8gA
Pant, Abergorlech, sir Gaerfyrddin, tua 1912-14, cartref y canwr, baledwr a’r didannwr Bertie Stephens. Recordiodd Bertie dros 80 o ganeuon difrifol a digri i'r Archif, llawer yn rhai a glywodd mewn ffeiriau lleol pan yn fachgen ifanc. Rhagor amdano yma: https://t.co/3S0MktRWK0
Flailing was hard, repetitive work, often done by candlelight early in the morning, to get enough straw for the day. Great skill and care was needed by the two men threshing using flails made out of two pieces of wood bound together, usually by a supple piece of leather or laces.
Byddai dyrnwyr yn aml yn gweithio yng ngolau cannwyll yn gynnar yn y bore. Rhaid oedd bod yn dra gofalus a medrus yn curo’r ŷd am yn ail gyda’r ffust (dau bastwn o bren wedi eu cysylltu â charrai neu ddarn o ledr fel arfer) er mwyn cynhyrchu digon o wellt ar gyfer y diwrnod.