Gyda thristwch anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at Olwen, Bethan, Elen a'u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli Dei - aelod ffyddlon o Gôr Rhuthun ers canol yr 80au. Yn faswr soled a chadarn, cymeriad hoffus, direidus a chymwynasgar. Bydd colled enfawr ar ei ôl. Cysga'n dawel Dei.
Gyda thristwch anfonwn ein cydymdeimlad at Helen, Catrin, Eurgain, Elliw a'r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Roedd Iwan Vaughan Evans yn aelod ffyddlon o Gôr Rhuthun - craig y tenoriaid, rheolwr y rhesi, cyflwynwr ein cyngherddau - bydd colled enfawr ar ei ôl. Coffa da amdano.
Ymarfer olaf heno cyn yr Eisteddfod Genedlaethol 🎶
Mae’r côr yn diolch am grant Cymunedol HSDd wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych. Diolch hefyd am Grant Cymunedol Llys Awelon gan Grwp Cynefin a Read Construction tuag at gostau cyfeilydd.
Llongyfarchiadau mawr @CorGlanaethwy@cefinroberts ar ennill Côr y Byd!! A gwych i weld Llinos (un o'n cywion ni!) a Chôr Tegalaw ar yr un llwyfan!
👏👏👏🎶🎶🎶🏴🏴🏴
Bienvenue à nos amis!
Pleser oedd cael croesawu ein ffrindiau o Briec de l'Odet, gefeilldref Rhuthun, i'n ymarfer heno. Yn eu plith roedd aelodau @Bagad_Brieg_PB fydd yn chwarae yng Ngwyl Rhuthun bnawn Sadwrn. Mae'n arferiad cyd-ganu ambell gân, Y Gwcw oedd un heno! 🎶Holiacici!
Bore da @Tudur Dyl a Manon - fasech chi'n rhoi hysbys i'n cyngerdd blynyddol nos Sadwrn nesa Tach 18 yng nghwmni Côr Meibion Penybont ar Ogwr a'r tenor ifanc lleol Elis Jones? Byddwn yn Neuadd y Dref Dinbych (dim lle i ni yn Rhuthun🙈!). Diolch! 🎶
Perfformio Peth Bach Di Cawr @OPRACymru ar fy nhir fy hun yn Theatr John Ambrose, Rhuthun, Nos Fercher Hyd 11, am 6:30pm Tocynnau - Siop Elfair ac wrth y drws. Dewch i gefnogi perfformiadau llawn hwyl yn y Gymraeg!! 🎻🎶🏴
@corrhuthun@UrddDinbych@ysgolbrynhyfryd@SteffanLloydO
Pythefnos i fory bydd 'na ymwelwyr o'r Gogledd yn ymuno â ni mewn cyngerdd arbennig gyda'n unawdydd gwadd, y bariton, Owain Rowlands. E-bostiwch y côr i sicrhau tocyn!
Two weeks tomorrow we'll have a special concert with @corrhuthun and baritone, Owain Rowlands. Join us!