Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau bellach ar gau ar gyfer Penwythnos y Pasg a byddant yn ailagor Ddydd Mawrth 7 Ebrill.
Mae rhestr lawn o oriau agor y Pasg ar gael ar UniLife 🔗 Dolen isod 👇
🌼 Pasg hapus 🐰
Rydyn ni wedi sicrhau £232k o gyllid i weithio gyda @wearecodigroup ar ymchwil sy'n rhoi tenantiaid a staff rheng flaen wrth wraidd gwasanaethau tai cymdeithasol.
https://t.co/W7ZBtjkPuR
#TaiCymdeithasol#EffaithYmchwil
Dywedodd Chris: "Diolch i PDC am y gydnabyddiaeth hon; roedd y Brifysgol yn allweddol wrth lunio fy ngyrfa ac rwy'n falch o fod wedi cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl." https://t.co/0MIlNIpZEb
Mae Chris Sutton – syrfëwr siartredig a chyn-fyfyriwr PDC – wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd heddiw, sy'n cydnabod ei gyfraniad i addysg bellach ac uwch, a'r dirwedd fusnes yng Nghymru.
O Lerpwl i Galiffornia 🌍⚽
Heddiw, mae Helen Pettit yn graddio gydag MA Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon.
Goresgynnodd anaf difrifol, rhwystrau personol, a pharthau amser i ddod yn uwch arweinydd ym maes pêl-droed yn ddim ond 24 oed.
👉https://t.co/GRtnz6QwaK
Yn ogystal â chyfarfodydd ffurfiol, bu’r ddirprwyaeth mewn darlithoedd gwadd a sesiynau cynllunio ac ar ymweliadau diwylliannol, gan gryfhau’r berthynas rhwng y sefydliadau ymhellach a gosod y sylfaen ar gyfer cyfnewidiadau yn y dyfodol.
Mae'r Academi yn creu canolfan ragoriaeth genedlaethol a rhyngwladol i feithrin talent creadigol a gyrru arloesedd yn y diwydiant, gan ddarparu addysg ac ymchwil arloesol mewn gemau ac animeiddio.
Mae ein myfyrwyr yn ennill profiad amhrisiadwy o gyfryngau chwaraeon drwy helpu i gynhyrchu'r podlediad @robandblakey gyda chyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru Nathan Blake a chyn ohebydd pêl-droed BBC Cymru Rob Phillips.
Mae Blwch Sylwadau Rob a Blakey yn ymdrin â'r pynciau trafod mwyaf ym mhêl-droed Cymru. Ar gael ar YouTube a Spotify, mae'r sioe wedi denu 30,000 o ymweliadau ar draws y ddau safle ffrydio ers ei darllediad cyntaf.
Nadolig Llawen i'n holl staff a myfyrwyr yn ein #TeuluPDC – beth bynnag rydych chi'n ei ddathlu, gan bob un ohonom yn PDC, gobeithiwn y cewch egwyl heddychlon, ddiogel a llawen ✨🎄
Gyda chladin bellach yn cael ei ychwanegu at Calon, yn 2026 fe welwn y prosiect yn cael ei gwblhau'n barod i'r adeilad gael ei agor ar gyfer dysgu ac addysgu yr Hydref nesaf.
Mae fideo dros amser wedi cofnodi sut mae Calon - yr adeilad Cyfrifiadura, Peirianneg a Thechnoleg newydd sy'n cael ei adeiladu ar Gampws Trefforest - wedi codi i'w uchder llawn o 23 metr yn ystod 2025. 🧵
Cyrhaeddodd y craeniau sy'n ymddangos yn y fideo ar y campws ym mis Ionawr, ac maent wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r 140 o staff sy'n ymwneud ag adeiladu Calon.