📢Heddiw yn yr Eisteddfod.
'Bardd y ffin a dyn y Dadeni: cyflwyno Prosiect Gutun Owain'
🗣️Jenny Day a Gruffudd Antur @GruffuddAntur
📍Pabell y Cymdeithasau
⏰3.00yp
Bu @GruffuddAntur o’r Ganolfan yn siarad gyda @DeiTomos ddoe am golli llawysgrif bwysig o’r Oesoedd Canol mewn tân yn Llundain, sef Llyfr Gwyn Hergest.📻Gallwch wrando arno eto (tua 39:45 munud i mewn i’r rhaglen) 👇
https://t.co/SdwyYWJu29
📖 Mae cylchgrawn academaidd sy’n trafod hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol yn cychwyn ar gyfnod newydd. Ddeng mlynedd ar hugain ers ei gyhoeddi gyntaf, mae #Dwned yn symud o fod yn gylchgrawn print i fod yn gylchgrawn digidol gyda’i wefan ei hun.
🖱️ https://t.co/hjx6iYzhGt
Llongyfarchiadau i Dr Jenny Day o’r Ganolfan ar lwyddiant ei chais i gronfa Catalydd yr AHRC. Bydd y prosiect newydd a chyffrous hwn yn cyhoeddi golygiadau newydd o gerddi gan y bardd a’r ysgolhaig Gutun Owain.
Rhagor isod 👇
https://t.co/0CcCJg7LQc
Siŵr nad fi ydi'r cynta i ddeud hyn, ond mae'n anodd peidio â meddwl am yr hanes am fradychu'r Llyw Olaf yng nghlochdai Bangor 'gan ei wŷr ei hun'
#TheTraitors
Llongyfarchiadau calonnog i un o Olygyddion Hŷn @geiriadur, Ann Parry Owen @Collen105 ar ennill Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith am ei chyfrol Geirfâu'r Fflyd sy'n ffynhonnell bwysig o eirfa Sir y Fflint yn yr 17g.
Llongyfarchiadau mawr iawn i'n hawdur, Ann Parry Owen (@Collen105), ar ennill Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith Prifysgol Cymru am ei chyfrol arbennig, ‘Geirfâu'r Fflyd, 1632–1633’!
Gwobr haeddiannol am gampwaith o olygiad o eirfâu thematig a luniodd John Jones, Gellilyfdy.
Dyma'r gerdd fydd dan forthwyl yr ocsiwn nos Sadwrn yma, Tir Iarll yn llawysgrifen unigryw y bardd ei hun, Gerallt Lloyd Owen. Anfonwch eich cynigion cyn 4.00 brynhawn Sadwrn at [email protected]
Cyfle unigryw i fod yn berchennog ar gerdd yn llawysgrifen Gerallt Lloyd Owen ei hun. Ar 2il Tachwedd byddwn yn ei harwerthu er mwyn codi arian i'r Gymdeithas Gerdd Dafod. Os na allwch fod yno, rhowch gynnig trwy ebost nawr - [email protected] - ar ras, mae hon yn drysor!