Heno ar hyd y glannau, daw i gof
chwe deg wyth o ynnau
a sain beiddgar gitarau
yn tanio awch crwtyn iau.
O'r Rhyl tu hwnt i orwelion dy fyd
fe est â'th ganeuon,
ond roedd ardal dy galon
yn gaer hud i yrfa gron.
Trist gweld hen dafarn Pen y Bont yn #Abergele yn cael enw Saesneg amhriodol newydd. Mae'r un perchennog hefyd yn ail-enwi'r Gwindy yn The Winery. Mae'r dafarn yna'n ail agor ar #DyddGwylDewi
Dymuniadau gorau i @SianEsmor sy'n rhoi'r gorau i'w swydd fel tiwtor iaith yr wythnos hon. Diolch o galon i chdi am holl waith gyda myfyrwyr a staff @prifysgolbangor@CangenBangor@colegcymraeg dros y blynyddoedd.
Yn eisteddle dyhead
bu'r geiriau ar glustiau gwlad
mai hir yw pob ymaros
fel pader yn nyfnder nos,
a neb yn ei hateb hi...
Awr yw hon i wirioni,
fe ddaeth i ben ein penyd,
awn heb ofn hyd lwyfan byd.
🏴🏴🏴