Beth am brynu bag o brownis i'ch cadw i fynd yn yr Eisteddfod?
Wrth fynd trwy Lanbed, trowch i mewn tua Sainsburys a gwelwch far llaeth Gwarffynnon - o'r fan hyn cewch stocio lan ar eich danteithion Hathren!
#siopalleol@Clonc360
Fe gewch afael ar lond lle o gynnyrch o Gymru mewn siop fach yn Aberystwyth.
Ewch i Stordy Aber ar Eastgate Street i brynu'ch danteithion a chefnogi rhai o gynhyrchwyr gorau'r wlad.
#siopalleol@BroAber_360
Mwy o fusnesau bach ar https://t.co/0iR30lnNqR
Bunkery a beics - dyma un o fusnesau newydd Tregaron.
Mae mwy o hanes Rhydian Wilson a Ieuenctid Cambria yn rhifyn print arbennig @Caron_360 ar gyfer y 'Steddfod:
https://t.co/rppmGMMYVg
Un o'r bwytai sy'n tyfu gyflymaf yn Aberystwyth yw Medina.
Bwyd ffein o Fôr y Canoldir sydd ar y fwydlen - ar gael o'r caffi ar Stryd y Farchnad ac, os ewch chi yna'n gyflym, o'r bwyty pop-yp yn y marina!
Mwy o fusnesau annibynnol y sir ar https://t.co/0iR30l6c2h
@BroAber_360
Un o fusnesau enwocaf Tregaron yw Canolfan @RhiannonCentre - mae'n werth treulio pnawn bach hamddenol yn yr oriel a'r caffi.
Beth am brynu darn o emwaith unigryw Rhiannon i'ch cymar wythnos yr Eisteddfod?
#siopalleol@Caron_360
Llyfrau, cardiau a mwy...
Siop fach yw Inc, ond siop llawn dop o bethau Cymraeg a Chymreig.
Galwch heibio os byddwch chi yn Aberystwyth, neu i'r stondin ar y maes.
#siopalleol@BroAber_360
"Ble ma Tregaron?"
"Tu fas i'r Talbot!"
Oes, mae mwy o fusnesau adnabyddus yn y dre erbyn hyn, ond mae'r Talbot yn dal yn hen ffefryn - fel bwyty a thy tafarn cartrefol.
Byth rhaid i chi alw ma wythnos y 'Steddfod!
@Caron_360
Mwy o fusnesau lleol ar https://t.co/0iR30lnNqR
Un o'r busnesau sydd wedi tyfu gyflymaf yn Llanbed yn ddiweddar yw @watsonandpratts
Galwch heibio'r ystad ddiwydiannol (heol Tregaron) am wledd o fwydydd fresh ac organig.
Gallwch weld llawer mwy o siopau annibynnol ar https://t.co/0iR30l6c2h
#siopalleol@Clonc360
Efallai bydd eich cymar yn haeddu anrheg arbennig iawn i ddathlu llwyddiant yn y brifwyl... pwy â ŵyr?!
Ewch lan i siop gemwaith T. J. Davies yn Aberystwyth am ddewis arbennig o emwaith o safon.
Diolch arbennig i Angharad am y cydweithio diweddar 👌
#siopalleol@BroAber_360
I'r clwb bowls â chi am bryd da o fwyd i lenwi'r bola!
Clwb Bowlio Tregaron yw un o'r busnesau lleol agosaf ar faes y brifwyl. Galwch heibio am eich brecwast, swper neu ddiod bach slei, neu ewch yno i fwynhau gig gyda'r Moniars!
https://t.co/Nuqa1U7C1O
@Caron_360
Mae siop Driftwood Designs yn llawn lliw a llun - yn gynnyrch brwsh paent yr artist Lizzie Spikes.
Ewch yno i chwilio am anrhegion arbennig â blas lleol y dre ger y lli.
Mwy o fusnesau annibynnol ar hafan busnesau bach Cymru - https://t.co/0iR30lnNqR
#siopalleol@BroAber_360
Ar eich ymweliad â'r dref, galwch mewn i Ganolfan Treftadaeth Tregaron - cyfle hamddenol i ddysgu am hanes a diwylliant yr ardal.
Mae'n werth galw draw i weld y wal hyfryd ar ochr yr adeilad 👌
@Caron_360
Bydd syched gyda chi yn ystod eich ymweliad â'r Eisteddfod - heb os.
*Mae mwy na Bar Syched ar gael i'ch helpu!*
Ewch draw i Lanbed i lenwi potel o far llaeth Gwarffynnon - diod bach iach am bob dydd o'r wythnos!
@Clonc360#siopalleol
@siopypethe - un o enwau amlycaf stryd fawr Aberystwyth ers degawdau.
Os ewch am dro i Aberystwyth, cofiwch alw yn y siop ar y sgwâr i bori trwy lyfrau, cylchgronau ac anrhegion di-ri
Beth am i'ch busnes chi ymaelodi â https://t.co/0iR30lnNqR hefyd?
#siopalleol@BroAber_360
Un o fusnesau newydd (poblogaidd iawn) Tregaron yw Cacennau Gwen.
Jyst y peth i chi a'ch dant melys!
Dim ond un busnes lleol yw hwn - ewch i https://t.co/0iR30lnNqR i weld mwy
#siopalleol#eisteddfod@Caron_360
Os byddwch chi'n chwilio am bach o fwyd môr wythnos yr Eisteddfod, wel sbin fach lan i'r dre ger y lli amdani!
Mwynhewch wledd yng nghegin Jonah's Aberystwyth 🎣
I weld mwy o gwmnïau annibynnol ewch i https://t.co/0iR30lnNqR - hafan busnesau bach Cymru
#siopalleol@BroAber_360
Mae'r mygs lliwgar ma'n 100% Tregaron!
Wedi'u creu gan y cwmni argraffu lleol Argraffwyr Lewis a Hughes, i ddathlu'r dre fach â'r swn mawr.
Ac ma disgwyl swn mwy nag arfer ar hyd y lle mewn pythefnos!
#siopalleol@Caron_360
Mwy o fusnesau lleol ar https://t.co/0iR30lnNqR
Un o siopau dillad ac anrhegion annibynnol Aberystwyth sydd nesa yn y gyfres #siopalleol
Ewch am dro i @HerdandyWolf yr haf ma neu yn ystod eich ymweliad ag @eisteddfod Ceredigion
@BroAber_360
Oeddech chi'n gw'bod bod dim Banc yn Nhregaron?
OND mae merch leol wedi troi'r hen fanc yn nghanol y dre yn siop goffi a bar gwin.
Diod, cacen, bwyd ysgafn, coffi a tecawê... beth well?
Mae mwy o fusnesau lleol i'w gweld ar https://t.co/0iR30lnNqR
@Caron_360