Sesiwn wych arall ddoe yng nghwmni criw’r Dystysgrif Ôl-radd Polisi a Chynllunio Iaith✍️
Diolch yn fawr i Dr Jeremy Evas a Cerys Evans o Is-adran y Gymraeg @LlywodraethCym am eu mewnbwn a’u cwestiynau treiddgar wrth iddynt rannu rhai o ddatblygiadau Cymraeg 2050 gyda ni.
Hoffech chi ddatblygu’ch sgiliau neu uwch-sgilio mewn maes sy’n dod yn fwyfwy allweddol?
Rydym yn recriwtio nawr ar gyfer 2025-2026!
Mae’r Dystysgrif yn gyfangwbl drwy’r Gymraeg ac ar-lein.
Cysylltwch â ni am sgwrs 👉[email protected]
Diolch yn fawr iawn i Efa Gruffudd Jones, @ComyGymraeg am gynnal trafodaeth ddiddorol iawn gyda myfyrywyr ein Tystysgrif Polisi a Chynllunio Iaith heddiw 👥
@elinhgj@drindoddewisant@cathows
Diwrnod arbennig yng Nghynhadledd 'Rhwng Dau Glawr' gydag athrawon Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot. Diolch i @cyngorabertawe , @NPTCouncil a @CYDAG_CYMRU am drefnu 🌟
We’re recruiting for an online Higher Level course for teachers 💻
For more information or an application form, contact [email protected]
Closing date: 14.02.25 📅
@UWTSD
Ry’n ni’n recriwitio ar gyfer Cwrs Uwch ar-lein i athrawon💻
Am fwy o wybodaeth neu i gael ffurflen gais, cysylltwch â [email protected]
Dyddiad cau: 14.02.25 📆
@drindoddewisant
#DyddMiwsigCymru hapus iawn i chi gyd!🎶
Mae myfyrwyr y Cwrs Sabothol wedi dathlu mewn steil!
Diolch i Menter Gorllewin Sir Gar, @yr_egin a @CangenDDS am drefnu cwis ar gyfer myfyrwyr hwb Caerfyrddin ✍️
Cadwch lygad am fideo arbennig gan ein myfyrwyr yr wythnos nesaf 👀
Diolch enfawr i Isaías Grandis am ddod i rannu ei brofiadau o ddysgu Cymraeg gyda'r myfyrwyr Sabothol. Rhoddodd lawer o gyfleoedd iddyn nhw ymarfer patrymau newydd yr wythnos wrth gymharu bywyd yng Nghymru â bywyd ym Mhatagonia.
Muchas gracias!
Croeso cynnes i’r criw newydd o fyfyrwyr sy’n dechrau ar Modwl 1 Tystysgrif Ôl-raddedig Cyfieithu ar y Pryd heddiw 💬
Pob dymuniad da iddyn nhw!
@drindoddewisant
Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi 🎄
Diolch yn fawr i'r holl fyfyrwyr am eu gwaith yn ystod y flwyddyn 🌟
Wishing you a very Merry Christmas and a Happy New Year 🎅
Thank you to all the students for their work during the year 🌟
Croesawyd athrawon Hwb y Drenewydd i Ysgol Treowen yr wythnos diwethaf lle mae nifer o'r staff wedi mynychu'n cyrsiau.
Diolch yn fawr i Liz Jones am ddangos beth sy'n bosib ei gyflawni ar ôl y Cwrs Sabothol. Syniadau gwych! 🌟
Diolch yn fawr iawn i Gwenllian Beynon, Cyfarwyddydd Celf a Dylunio a Chelf Ymarferol @drindoddewisant am gynnal sesiwn Iaith a Chelf gyda'r athrawon Sabothol.
Ymunodd yr Hybiau eraill ar-lein i greu stori ar ffurf cwilt🖍
Cafodd Hwb y Drenewydd ymweliad gan Grug o @UrddMaldwyn ddydd Gwener. Er gwaethaf y glaw, cafodd pawb gymaint o hwyl yn chwarae Gemau Buarth.
Diolch yn fawr iawn Grug am y syniadau gwych i ymestyn iaith y plant drwy gemau hwyl y tu allan i'r dosbarth🎲
Diolch yn fawr iawn i Morgan o Ysgol Dafen am ddod i rannu ei brofiadau gyda'r Criw Sabothol yr wythnos hon 💬
Roedd Morgan ar y Cwrs yn 2022. Ers hynny mae e wedi gwneud cymaint o wahaniaeth yn ei ysgol yn ysbrydoli plant a staff i fwynhau'r Gymraeg, da iawn Morgan. 👏
Myfyrwyr y Dystysgrif Cyfieithu ar y Pryd wedi cael profiad arbennig yn ymweld â’r Senedd yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Diolch i Rhiannon Hincks a Rhys Morgan am y daith 🌟
@colegcymraeg
Dyma sut mae rhai o staff a myfyrwyr @drindoddewisant yn defnyddio eu Cymraeg 💬
~
This is how University of Wales Trinity Saint David staff and students use their Welsh around the campus👇
#DefnyddiaDyGymraeg@ComyGymraeg
Beth am ddod i weithio gyda ni?
Ry'n ni'n chwilio am Ddarlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â'r tîm!
Am fwy o wybodaeth ewch i: https://t.co/EmekuKzr9Y
neu anfonwch e-bost at [email protected]
Dyddiad Cau: 3/12/24