Gŵyl Aled - Gŵyl Cerdd Dant 2024
Llongyfarchiadau mawr i bawb a fuodd yn cystadlu ddoe 👏🏻 A diolch enfawr i’r holl hyfforddwyr a chyfeilyddion am eu gwaith caled dros yr wythnos diwethaf 🤩
Llongyfarchiadau mawr i’r cerddorion am ennill Tlws Cymdeithas Ddawns Werin eleni 👏🏻🏆Rydym yn lwcus iawn o’r grŵp o gerddorion sydd gyda ni 🎶 Diolch yn fawr iawn i chi gyd 🤩
Braint cael cystadlu yng nhystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake heno - cystadleuaeth a hanner. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm am gipio’r wobr gyntaf 👏🏻🥇 Diolch enfawr i bawb a fu’n helpu, hyfforddi a chefnogi 👏🏻🤩👏🏻 Rydym yn gwerthfawrogi yn fawr iawn 🎪🏴 #teulutalog
Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd 😆 Mi fyddwn yn cystadlu yn y gystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake heddiw am 17:10 yn y Pafiliwn. Pob lwc i bawb heddiw a mwynhewch y profiad🍀🤩🎶🎪
Tipyn o gamp i fam a merch heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol 🎪🏆
Llongyfarchiadau mawr i Nerys ar ennill y gystadleuaeth Cyfansoddi Dawns Gwerin 👏🏻👏🏻
A llongyfarchiadau mawr i Luned hefyd ar ennill gwobr Tlws yr Ifanc 👏🏻👏🏻
Rydym yn falch iawn o’r ddwy ohonoch ⭐️⭐️
Llongyfarchiadau anferthol i’r Parti Dawnsio Gwerin Dan 25 oed am ddod yn fuddugol heno. Perfformiad llawn bwrlwm ac egnïol iawn 👏🏻🥳
Diolch enfawr i Nerys, Aron, Siwan, Eirian ac Eirlys am hyfforddi 🤩 Diolch hefyd i’r band am gyfeilio!
Tro’r dawnswyr dan 25 oed yw hi heddiw. Pob lwc i chi gyd a mwynhewch y profiad 🍀🎶 Mi fydd y gystadleuaeth yn dechrau am 19:15 ar lwyfan y Pafiliwn 🎪🤩🏴 Os ydych ar y maes, dewch draw i gefnogi!
Os ydych ar faes yr Eisteddfod heddiw, cofiwch alw draw i’r Tŷ Gwerin am 12yp i wylio ein perfformiad ac i ymuno yn yr hwyl a’r sbri 🏴🎶 Mi fyddwn hefyd yn y Bwthyn am 3:30yp.
A massive thank you to Academy Arts By Ebony & Jalisa for allowing us to use the dance studio for our practice tonight. We appreciate it very much. The location and facilities were amazing 👌🏻💃🏻🕺🏻🎶
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at berffomrio yn y Tŷ Gwerin yfory am 12yp. Dewch i ymuno yn yr hwyl a’r sbri 💃🏻🕺🏻🎶
Mi fyddwn hefyd yn y Bwthyn am 3:30yp yfory!
Croeso cynnes i bawb 🏴🎼
Pob lwc i’n holl aelodau yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 dros yr wythnos nesaf yn cystadlu, hyfforddi, cyfeilio neu cefnogi 👏🏻🏴🎶 Ni’n falch ohonoch i gyd!! @EisteddfodUrdd
Diolch Carnifal Llandysul a Pontweli am y gwahoddiad i gynnal gwahoddiad Santes Dwynwen heno yn Neuadd Tysul 💕💃🏻🕺🏻 Pawb wedi mwynhau arddangos a chynnal twmpath. Diolch yn fawr iawn am y croeso 👏🏻🥰
Dawnsfeydd Gwerin Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 💃🏻🕺🏻
Beth am fynd ati i gystadlu yng nghystadlaethau Dawnsio Gwerin yr Eisteddfod?
Gwasgwch ar y linc i weld y fideos. Gallwch ddefnyddio’r fideos wrth ochr y cyfarwyddiadau dawnsio.
https://t.co/d9zW1Gp175