Mae’n bleser cyhoeddi fod noson Torri Tir yn cael ei chynnal wythnos i fory! Y tro hyn byddwn yn mynd i Borth Tywyn ac yn cydweithio gyda @TTywyn yn ein cartref newydd @caffilolfa.
Noson o farddoni a diddanwch yng nghwmni ein gwestai Arbennig @IHefin a beirdd y tŷ.
#yagym
I'm not convinced that Boris Johnson actually jogs. I think he just jogs so that he appear to be unruffled and doing-something-else whilst being photographed. Also, those seem to be boxer shorts.
Pa ffordd well i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na gyda thalwrn y beirdd? Ac yn well na hynny, mae e am ddim!
Ac yn well fyth, mae’r Prifeirdd Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones yn cyd-feuryna! Ac ar ben hyn oll, mae tri thîm yno i’ch diddanu!
Gwnewch y pethau bychain a dewch yn llu!
Mae’r #SteddfodGudd wedi cychwyn!
@LlareggubBrass sy’n cychwyn y diwrnod yn Aberystwyth!
Cofiwch mae modd ffrydio’r holl ddigwyddiad o’ch cartref heddiw — https://t.co/BQX2SFk9Qc
GŴYL GERALLT - COFIO IWAN LLWYD Wythnos i heddiw byddwn yn cofio am y diweddar Brifardd Iwan Llwyd. Anodd credu bod dros deng mlynedd wedi mynd heibio ers iddo’n gadael. Byddwn yn hel atgofion, rhannu straeon difyr a doniol, ac yn trafod ei waith arbennig a phwysig fel bardd.
Mae cyfres o 8 fideo rwyf wedi eu creu yn rhoi cyflwyniad i’r gynghanedd i ddechreuwyr yn dal i fod arlein tan ddiwedd mis Medi.
Mae croeso ichi glicio isod ar y linc a gwylio pob fideo am ddim. Gallaf wedyn ymateb ar ebost i’r ymdrechion cynganeddol a ddanfonir ataf.
#Yagym
Beth ydych chi wedi'i golli am ein hamgueddfa yn ystod y cyfnod cloi? Oes arteffact/gweithgaredd rydych chi wedi'i golli? Cymdeithasu yn ein caffi? Ein digwyddiadau? Rhowch wybod mewn gair, ymadrodd neu drydar. Defnyddiwch #DatgloiUnlock a bydd @NeiKaradog yn ei blethu i gerdd.
Pwy sy’n cofio Gwir fel Gwydir, y Capel Jazz a Wylfa Beirdd?
Wel, ar nos Fawrth 4 Awst am 8pm, byddwn yn cyflwyno #SwigSteddfod Ifor ap Glyn yn cyflwyno Myrddin ap Dafydd, @GwennanEvans@NeiKaradog @hywelpitts @marigeorge2
Newydd ddarllen Rhwng Dwy Lein Drên @llyrgwyn mae’n R-bennig, R-dderchog. Ddechreues i yn y dechre a stopes i ddim tan y diwedd. Cymaint ynddi, cymaint... chwerthin... llefen... nabod... gwbod...
Mae gen i ac @eurig gyfrol newydd a gyrhaeddiff y siopau yn fuan ac ry’n ni wedi’n cyffroi gyda gallu rhannu #YGynghaneddHeddiw gyda’r byd.
Cyfrol o 10 ysgrif a 24 erthygl gan amrywiol gyfrannwyr yn trafod cerdd dafod.
Dyma hefyd gyfrolau diweddar o’n heiddo y gellir eu prynu.
Mae Elinor Wyn Reynolds wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol gyntaf 'Gwirionedd'. Meddai: "Oedd raid imi ysgrifennu 'Gwirionedd'. 'Nath na rywbeth gydio ynddo 'i . . . rhyw egni o'r tu fas . . . "
Mae'r sesiwn holi ac ateb rhyngof i a @HywelGriffiths am fy llyfr newydd #LlyfrGwyrddYstwyth a recordiwyd neithiwr fel rhan o @eisteddfod#SteddfodAmgen nawr ar gael ar lein – clicia ar y ddolen i wylio eto ac am lawer mwy
https://t.co/UETfsSfMF1
📢 Newyddion y Bragdy! 📢
Nos Wener nesaf byddwn yn cyflwyno noson #SwigSydyn.
🎤 @Gruffudd_Owen
🎤 @CarylBryn
🎤 @carwyn_eckley
🎤 @Elan_Grug
🎤 @manonawst ac @anoracyracen
ac Ifor ap Glyn yn cadw trefn ar y cyfan.
Cewch wylio ar Facebook neu ar ein Sianel Youtube.
🥳 Pleser cyhoeddi mae @NeiKaradog yw beirniad ein cystadleuaeth farddoniaeth 14-25 oed. Dyma neges i chi gan y Karadogiaid (yn eu coch, gwyn a gwyrdd! ❤️🤍💚)
📝 Ewch ati dros y penwythnos i chwilio am yr awen!
Dyddiad cau: 11eg o Fai
#EisteddfodT