Byddwn yn cymryd hoe o gyhoeddi Y Barcud yn awr tan fis Mawrth oherwydd y cyfyngiadau diweddaraf. Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Y Barcud. Edrychwn ymlaen at flwyddyn gwell i ni gyd yn 2021!
Dyma ni te o’r diwedd ni nôl! Bydd y Barcud ar gael o’ch siopau lleol o brynhawn yfory ymlaen. Gan fod siop Bronant wedi cau bydd y Barcud ar garl O Lwyn Onn ac Ardwyn, Bronant ac o Wyre View, Lledrod. Hawliwch eich copi a chefnogwch eich papur bro!
Rydyn yn anelu at gyhoeddi rhifyn nesaf Y Barcud ym mis Hydref. Noder felly y bydd angen anfon unrhyw newyddion erbyn Medi 25ain. Diolch am eich amynedd-edrych ymlaen i fod nôl!🤞
Oherwydd y gofid dros y feirws Cofid19 rydym wedi penderfynu canslo’r Noson Goffi oedd i fod i ddigwydd nos Wener. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra mae hyn yn creu.