Elusen genhadol Gristnogol Gymraeg. Rhoi cylfe i ieuenctid Cymru i glywed ac ymateb i'r newyddion da am Iesu Grist yn yr Eisteddfod Genedalethol. 🏴
Dyma estyn croeso cynnes i holl gefnogwyr y Gorlan i'n cyfarfod cyffredinol blynyddol yfory am hanner dydd yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth.
Bydd cyfle i drafod ac edrych ymlaen at Eisteddfod 2023, ac amser yn benodol i weddïo dros y gwaith hefyd.
Ymunwch a ni dydd Sadwrn ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghapel Seion, Aberystwyth am 13:00pm.
Mae dolen Zoom ar gael hefyd os na fedrwch chi deithio. Bydd yn hyfryd cael cyfle i weddio a rhannu gyda'n gilydd.
Gwelwn ni chi yno!
Croeso mawr iawn i bawb!
Croeso enfawr i chi ymuno gyda ni yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Sadwrn yma (15fed o Ionawr) am 11:00yb.
Mae'n hollol agored i unrhywun ymuno, ac felly os hoffech y ddolen i'r cyfarfod Zoom, cysylltwch gyda ni!
Edrych ymlaen i'ch gweld chi yno!
DYDD GŴYL DEWI HAPUS !! Cymerwch eiliad cyflym i wylio'r fideo yma.
"Dydd Gŵyl Dewi.
Diwrnod i'r Cymry.
Diwrnod i foli.
Diwrnod sy'n mynnu ein bod ni...
YMA O HYD!"
Diolch i ti Elin am ysgrifennu'r gerdd ac am ei adrodd !
https://t.co/J3BzRCp0YK
Y PWYLLGOR
7- Siwan ydw i, dwi'n 20 oed ac yn byw yn Llundain. Dwi'n gyffrous i gael bod yn rhan o'r pwyllgor a chymryd cyfrifoldeb o'r ochr marchnata, dylunio a'r cyfryngau cymdeithasol! Dwi methu aros i weld beth sy'n rhan o gynllun Duw ar gyfer Y Gorlan dros y flwyddyn nesaf.
Y PWYLLGOR
6- Gwilym ydw i a fi yw cadeirydd pwyllgor y Gorlan. Dw i newydd gychwyn fel gweinidog yn eglwys Seion, Aberystwyth ac eglwys Bethel, Tal-y-bont. Dw i mor ddiolchgar am yr holl gyfleoedd mae Duw wedi rhoi i’r Gorlan i rannu’r newyddion da am Iesu gyda’r Cymry Cymraeg.
Y PWYLLGOR
5- Fy enw i ydy Elin, dw i’n 25 ac yn byw ym Mangor. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio hefo Undebau Cristnogol yng Nghymru. Fi ydy’r Swyddog Tîm ac dw i’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut fydd Y Gorlan yn datblygu yn ei gwaith o rannu’r newyddion da yn y blynyddoedd nesaf.
Y PWYLLGOR
4- Shwmae bawb, Lewis ydw i. Dwi’n 23 mlwydd oed ac yn byw yn Llundain ar hyn o bryd! Dwi’n gyffrous i gael bod yn rhan o’r Gorlan fel Swyddog Raglen eleni. Mae’n gyffrous gallu rhannu newyddion da Iesu Grist hefo’r Cymry Cymraeg!
Helo! Gruff ydw i- yr ysgrifennydd. Dw i'n byw ym Mhenrhyndeudraeth ac yn weithiwr ieuenctid i 'Trobwynt' ac yn fyfyriwr ymchwil ôl-radd. Fy ngweddi yw y bydd y Gorlan eto yn rhoi cyfle i Gristnogion ifanc rannu am Iesu Grist, ac y bydd yna Gymry yn ymateb i'r gwahoddiad.
Y PWYLLGOR
2- Helo! Fy enw i yw Eleri, dwi'n 22 oed ac yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Fi fydd y trysorydd blwyddyn yma felly ‘dw i am fod yn gyfrifol o’r ochr ariannol. ‘Dw i wir yn edrych ymlaen i gymryd rhan yn trefnu gwaith Y Gorlan dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Y PWYLLGOR
1- Tomos ydw i, dwi'n 17 a'n byw yn Llanuwchllyn ger Bala yn gorffen fy Lefel A! Dwi'n gyffrous i fod yn rhan o bwyllgor Gorlan i drafod syniadau ynglŷn a efengylu i bobl ifanc Cymru! Dwi'n edrych mlaen i weld sut ma Duw am ddefnyddio Gorlan trwy gydol y flwyddyn yma!
APEL
*
Oes gennych chi atgof o'r Gorlan dros y blynyddoedd)? Byddem wrth ein bodd yn eu clywed i ddathlu blynyddoedd o waith y Gorlan yn yr Eisteddfod, yn enwedig gan fod amodau'r Eisteddfod mor anghyffredin eleni. Danfonwch neges breifat i ni ar Instagram, Twitter neu Facebook!