Rydym yn hynod o falch o’n hadroddiad Estyn diweddar yn dilyn arolwg ym mis Tachwedd 2023. Cliciwch yma i’w darllen.
We are extremely proud of our recent Estyn report following an inspection in November 2023. Click here to read it: https://t.co/6KuZJw1SnT
Gan ei bod yn wythnos atal boddi yr wythnos hon, roedd hi’n bwysig codi ymwybyddiaeth y plant a dysgu sgiliau achub bywyd. Sgiliau pwysig iawn, yn enwedig gan ein bod yn byw mor agos at y môr. DIolch i staff Staff Byw’n Iach Dwyfor am ein dysgu! 🌊🏊🏻♀️ @BywnIachCymru
Cawsom hwyl heddiw yn cymryd rhan yn Ras yr Iaith. Cyfle i ddathlu Cymreictod a’r iaith Gymraeg. Roedd pawb wedi bod wrthi yn creu ffagl oedd yn dangos beth mae Cymreictod yn ei olygu iddyn nhw ac roedd bob un werth eu gweld.🏴 @RasyrIaith
Diolch i Dafydd Eurgain @CerddYsgolion am y sesiwn gerdd prynhawn heddiw. Y plant wedi mwynhau dysgu chwarae’r ukulele a chyfansoddi cerddoriaeth yn ddigidol. 🎶 🎸 #arbrofi#celfyddydaumynegiannol
Diwrnod llawn hwyl heddiw yng nghwmni @Welsh Whisperer yn cyfansoddi cân newydd, gwrando ar ei ganeuon amrywiol a dawnsio yn y parti diwedd dydd! Diwrnod arbennig! 🎶 🎸
Bore llawn hwyl yn ymuno gyda holl ysgolion Cymru yn Jambori yr Urdd i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yn Qatar. Braint oedd cael cyd-ganu gyda’r arwr ei hun, Dafydd Iwan. @Urdd Gobaith Cymru #jambori#timcymru2022#YmaOHyd
Mae disgyblion o @ysgolmorfa wedi codi £713 drwy wisgo eu hesgidiau cerdded i gymryd rhan yn nigwyddiad codi arian Cerdded Cymru Ambiwlans Awyr Cymru – Castell i Gastell.
Diolch yn fawr pawb!
➡ https://t.co/yQqQOKvbOm
Everyone has been very active this week, adding to the 'Walking Wales'total miles to collect money for the Wales Air Ambulance. Please sponsor the children, by donating below: https://t.co/h7psl5NWRF
Pawb wedi bod yn heini iawn yr wythnos hon yn ychwanegu at filltiroedd ‘Cerdded Cymru’ a chasglu arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Cofiwch noddi’r plant, drwy gyfrannu isod: https://t.co/qxLy3bRGrC