"Roedd Geraint yn anhygoel. Ers glywed am ei farwolaeth echddoe, mae e di bod ar fy meddwl yn barhaol. Geraint y perfformiwr, Geraint y bardd, Geraint y cynhyrchydd, Geraint y mentor, Geraint y Cymro, Geraint y tad a’r gwr, Geraint y dyn."
— Gareth Potter
https://t.co/McyR3xrcUh
Mae cwestiynau am adnabod Trump a’u tebyg fel ffasgwyr dan y chwithwydr eto. Rwy’n rhannu rhywfaint o’r amheuaeth, ond yn cynnig dadansoddiad yn y darn hwn, sydd yn dadlau’r achos dros ddefnydd “neoffasgiaeth”.
https://t.co/1sZ1kshBrS
yn glastonbury. odd yr haul gynne yn anioddefol ac odd da fi ben tost a oni isie mynd adre ond nawr fi'n gwylio Mel C a teimlo bach yn well. nos sadwrn bodlon i chi gyd.
newydd weld Gwledd. lot fawr o hwyl, actio gwych a digonedd o ryfeddodau ychafi i ddiddanu. cerwch i weld e os gewch chi gyfle. ma gweld ffilm genre yn y gymraeg mewn sinema yn brofiad chwethinllyd o brin. os eith digon o ni i'w weld falle gewn ni fwy?
Es i i un o'r gigs Steddfod neithiwr. Ces i noson wych - diolch i @Cymdeithas am drefnu. Roedd Julie Murphy a Ceri Rhys Matthews yn arbennig o dda ond mwynheais pob perfformiad. ❤️
Anodd credu'r peth. I fi, roedd Topper yn un o fandiau pwysicaf y 90au, ac yn dal i swnio'n hollol wreiddiol a ffresh heddiw. Cyfansoddwr a cherddor arbennig iawn, a wastad yn hyfryd i fod yn ei gwmni.
Dwi’n mynd i fethu ei bop perffaith a’r sbarc yn ei lygaid - cymeriad a hanner oedd llawn direidi a thalent naturiol.
Diolch Dyfs am y gerddoriaeth a’r holl atgofion hapus.
Meddwl am ei frodyr a’i deulu yn fawr iawn x
Shouts i @sianelerievans am chware remix ni o Meillionen gan @LlareggubBrass a @eadythofficial ar ol y news wythnos dwetha. Ma allan dydd gwener!
https://t.co/Zj5Iqfxcuc