mi'n eistedd rhwng y meini astud
yn si a hymian y dydd disymud,
daw awel dawel o'r caeau diwyd
a rydd i minnau yr hedd am ennyd.
Y gwir er hynny i gyd - mae isel
nodau rhyfel yn y cefndir hefyd. # yrysgwrn
Taith
Cul y trac a loetra hon,
ysaf am gyrraedd stesion.
Do, bu hwyl, fe dybia' i
ar y siwrnai 'res arni.
Os bu yn gyflym am sbel,
doi'n arafach drwy dwnnel.
Ond haul eto a welaf,
ei belydrau golau gaf.
Er cul y trac, loetra hon,
nid ysaf 'nawr am stesion.
Clywed yr ymadrodd yma rwan ynglyn â'r awyr lwyd yma.
Petai'r 'c' gyntaf yn cael ei hynganu fel c yn lle s, mi fasa hon yn gynghanedd sain:
anticyclonic gloom
ond.........😌@PodlediadClera
awyr nos
Yno caf gilio i'r eang ddirgelwch
o ddaear isod a'r byd a'i ddryswch;
sêr yn ariannu pob rhan o'r düwch,
eu gloywder pur yn tyllu'r tywyllwch.
Ar hast daw ton o dristwch oherwydd
daw gorchudd hirddydd i guddio'r harddwch.
Wedi derbyn hwn heddiw! Ac wedi dechrau ei ddarllen, darllen digon i sylweddoli arwyddocâd y teitl (oedd dipyn bach o benbleth i mi!). Llongyfarchiadau @heyde_jo a diolch @ystampus.
Diwrnod braf heddiw, hamdden i wrando ar @PodlediadClera yn yr ardd a'r adar eisiau sylw ond chlywis i ddim ohonyn 'nhw.
Di-hast fy ngwrando astud,
adar Mai yn gefndir mud.
Diolch.