Diwrnod cyntaf o’n dosbarthiadau chwythbrennau @rpoonline yn @ColegCerddDrama . Heddiw gweithiodd ein cursiau dwbl gyda @Frasercontra a John Roberts, ac yfori byddwn yn croesawi Katherine Lacy a Jo Marsh. Rydym wrth ein bodd cael chi i gyd yma gyda ni!
Dyma’r ail ddiwrnod o’n dosbarthiadau chwythbrennau @rpoonline. Roedd yn wych cael Kath Lacy a Jo Marsh yma yn @ColegCerddDrama gyda ni i weithio ar y grefft anodd o chwarae mewn rôl gefnogol. Geiriau o ddoethineb wir. Diolch enfawr i’r ddau!
Prosiect bendigedig ar gyfer ein Clarinetau gyda @wellscathschool@musicatwells heddiw.Cyngerdd wych,gan ddiweddu gyda #NewYorkCounterpoint yn @cedarshallwells.Roedden ni wrth ein bodd yn gweithio gyda chi i gyd, yn enwedig gyda Rafi a Matt a fydd yn ymuno â’n adran ym mis Medi.
A wonderful concert from @robertplane @sacconi_quartet paying tribute to #InternationalWomensDay by performing Rebecca Clarke's Prelude, Allegro and Pastorale for Viola and Clarinet 🎶
Diolch o galon i Will Knight am roi o’i amser ar ei noson gyntaf fel clarinetydd gyda @WNOtweet i gynnal clwb clarinét #chwythbrennauCBCDC. Noson o wthio ffiniau ein chwarae. Does dim byd gwell nag ychydig o Feldenkrais i’n cynhesu!
Am ymweliad bendigedig gan yr oböydd anhygoel Armand Djikoloum. Ar ôl cyngerdd awr ginio @ColegCerddDrama gwych rhoddodd ddosbarth meistr llawn ysbrydolieth i’n chwaraewyr obo. Diolch yn fawr Armand. Dewch nôl yn fuan!
Llongyfarchiadau mawr i Anna Seaton, myfyriwr MMus Perfformio Cerddorfaol (4ydd o’r chwith) am ennill Gwobr Obo @ColegCerddDrama@CrowthersCant. Hefyd canmoliaeth i Isaac Barrow (1af dde) ac Ella Pearson (2il dde). Diolch yn fawr iawn i Armand Djikoloum am feirniadu
Perfformiad gwych gan Chwyth Siambr brynhawn heddiw. Yn dilyn deuawdau corn basset Mozart wedi’u chwarae gan Hannah a Catrin, chwaraeodd yr ensemble Symffoni ar gyfer Offerynnau Chwyth Strauss, ‘The Happy Workshop’. Llongyfarchiadau i’r holl chwaraewyr am berfformiad bendigedig!
Ymweliad hynod ddiddorol gan Maura Marinucci, prif garinetydd @BrusselsPhil, heno yng nghlwb clarinet @ColegCerddDrama. Canolbwyntio ar detholiadau, sain ac opera Eidalaidd!
Cawsom sesiwn arbennig heddiw yn y ‘clwb clarinet’ yng nghwmni Ben Mellefont, prif glarinetydd yr LPO, yn gweithio ar chwarae mewn adran a gwaith cerddorfaol.
Mae’n bleser i gael Theo Plath yn ymuno â ni yn @ColegCerddDrama. Triawdau gyda Steven Hudson a Catherine Milledge yfory, wedi’i ddilyn gan ddosbarth meistr ar gyfer ein myfyrwyr baswn lwcus!
Dosbarth meistr gwych gan brif glarinetydd Orchestra National de France,Carlos Ferreira.Cawsom fewnwelediad diddorol i frawddegu yng ngwaith Mozart,canu’n operatig, cadw’r sŵn yn fyw mewn adrannau piano a lliwio’r vibrato.Roedd sain hyfryd o gyfoethog yn eich holl arddangosiadau!
Ar agor (yn ddiogel o ran covid)! BMus 1 yn manteisio ar y cyfle i allu cyd-chwarae mewn cyngerdd cerddoriaeth siambr ar gyfer eu cyd-fyfyrwyr yn yr ystafell ac ar-lein. Adran chwythbrennau lwcus!
Mae myfyrwyr chwythbrennau @ColegCerddDrama yn ffodus iawn i allu parhau gyda dysgu wyneb yn wyneb mewn amgylchedd covid diogel. Cafwyd dosbarth arddull baroc/clasurol gwych bore ma gyda Julia Plaut. Diolch i bawb ac yn enwedig Laura gyda dy #ffliwtbaroc hyfryd.
Gerard McChrystal ac ensemble sacsoffon #CBCDC yn dangos y gall pethau gwych gael eu cyflawni gyda dysgu cyfunol yn yr adolygiad hwn o dymor yr Hydref 2020 https://t.co/tcLgmVorGY