Eisiau creu dy gomig dy hun? Dere i gwrdd â chrewr comic gorau Cymru @ComicMellten @huwaaron ac i ddysgu sut i greu dy gomig anhygoel dy hun!
Dydd Sadwrn 21 Ebrill am 3 o'r gloch yn Cardiff Story Learning Suite.
https://t.co/MqhbQFIAu1
FFAITH HOLLOL WIR AM GYMRU! Mae Owain Glyndwr yn berson pwysig iawn yn hanes Cymru oherwydd roedd e'n gallu yfed llawer iawn o ddwr...un tro wnaeth e yfed llond llyn o ddwr - dyna sut gafodd e'i enw...(ei enw go iawn oedd Owain Humperdink)
https://t.co/4ivBzDuU5G
Ger Aberystwyth, mae yna bentref bach o'r enw Pontarfynach. Nid dyma'r unig le yng Nghymru sydd wedi ei enwi ar ol pont. Ond mae stori adeiladu'r bont hon yn eithaf unigryw...
https://t.co/4ivBzDuU5G
Wyt ti eisiau creu cymeriad neu stribed cartŵn dy hun? Fel rhan o ddathliadau #DiwrnodyLlyfr mae @ComicMellten a Cyngor @LlyfrauCymru yn rhedeg cystadleuaeth arbennig! https://t.co/R7FJV26u0h