Lansio adnodd newydd!
Mae ein microwefan gyda QAA ar hunanwerthuso yn cefnogi darparwyr ar draws system addysg drydyddol Cymru.
Mae'n cynnwys:
- 12 egwyddor hunanwerthuso
- Cwestiynau myfyriol
- Mewnwelediadau i'r sector
- Adnoddau gwella
Ewch nawr: https://t.co/f56YZnHBJC
Clywch fwy gan bennaeth Ysgol Gynradd Trelai, Natalie O’Neill, am eu profiad diweddar o ymweliad interim gan Estyn.
#Ymweliadau interim
https://t.co/xIm2unooBr
Rydym yn edrych ymlaen at fynd i’r Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno ar 12 Mehefin.
Dewch i ymweld â ni ar Stondin 60 i ddysgu mwy am waith Estyn, ein ffocws manylach ar ddarllen a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi gwella.
Ymunwch â’n seminar ddwyieithog am 15:00.
Yr wythnos hon rydym wedi croesawu cydweithwyr o ddarparwyr AGA ledled Cymru i’n hyfforddiant arolygwyr cymheiriaid.
Diolch i bawb a fu’n bresennol dros y deuddydd diwethaf. Gobeithio y bydd y mewnwelediadau a rannwyd gennym yn cefnogi ac yn llywio eich gwaith.
Beth sydd i'w ddisgwyl mewn ymweliadau gweithgarwch dilynol?
Clywch gan ddau ddarparwr am sut brofiad oedd y daith iddyn nhw, yn y bennod ddiweddaraf o'n podlediad, Sgwrs:
https://t.co/Qet3xzAVAa
Cau yn fuan!
Mae ceisiadau ar gyfer ein Cyfarwyddwr Anweithredol ac Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cau ddydd Llun.
Ymgeisiwch nawr: https://t.co/0xDug6eo94
Bydd cofrestru ar gyfer y sectorau Lleyg, Pob Oed a Chynradd/Uwchradd yn Abertawe yn cau am ganol dydd, 5 Mehefin. Peidiwch â cholli'r cyfle i sicrhau eich lle.
Mae cofrestru ar gyfer lleoliadau eraill yn parhau i fod ar agor am y tro.
“Os byddwn ni’n diffodd deallusrwydd artiffisial… a fyddai myfyrwyr yn dal i wybod sut i ddysgu?”
Yn ein podlediad diweddaraf, rydym yn archwilio pam mae sgiliau trosglwyddadwy a chymhwysedd dysgu yn bwysicach nag unrhyw offeryn neu dechnoleg:
https://t.co/iT0lLl0d99
Rydym yn hoffi rhannu arfer effeithiol pan fyddwn yn ei gweld.
Y mis hwn, rydym yn rhannu astudiaeth achos o'r sector Uwchradd – Ysgol David Hughes.
Darllenwch ein harfer effeithiol ddiweddaraf yma:
https://t.co/cwbCFqe5rH
Ddoe, ymunodd y Prif Arolygydd Owen Evans â phartneriaid addysg o bob cwr o Gymru yn @EisteddfodUrdd ar Ynys Môn eleni ar gyfer trafodaeth banel yn canolbwyntio ar ddarllen a llythrennedd. Darllenwch mwy yma: https://t.co/5gyss64FAX
Mae myfyrwyr yn defnyddio AI fel rhan o'u proses ddysgu… ond nid bob amser i ddysgu.
Os yw AI yn gwneud y meddwl, beth sy'n digwydd i'r sgiliau meddwl?
Gwrandewch ar y drafodaeth ym mhennod diweddaraf ein podlediad, Sgwrs:
https://t.co/iT0lLl0d99
Yn cau yn fuan!
Rydym yn recriwtio am Gydlynydd Ymchwil i ymuno â’n tîm Ymchwil ac Ystadegau.
Dyddiad cau: 10:00yb dydd Mercher 27 Mai 2026
Ymgeisiwch nawr: https://t.co/oH6B14XUHH
Bydd cofrestru’n cau ar gyfer Hyfforddiant Diweddaru Ôl-16 yng Nghaerdydd am ganol dydd, 2 Mehefin. Peidiwch â cholli'r cyfle i sicrhau eich lle!
Mae cofrestru ar gyfer Llandudno dal ar agor.
Peidiwch anghofio cofrestru!
Disgwylir Arolygwyr i fynychu’n flynyddol. Fodd bynnag, mae’n orfodol mynychu o leiaf bob 2 flynedd. Ni fydd dyddiadau ychwanegol a’r cyfle nesaf i fynychu bydd haf 2027.
Mi fyddwn ni yn @eisteddfodurdd ar ddydd Mawrth gyda @dysgu_cymru – dewch i’n ffeindio ni ar stondinau 61-62 i ddweud helo!
Pob lwc i bawb sydd yn cystadlu trwy gydol yr wythnos. Dyma ddathliad gwych o waith caled cystadleuwyr a’u hathrawon, felly mwynhewch y profiad!
#Urdd2026