Celfyddyd 18/7/2025
Daw Daniel ag awen a doniau - graen
ei grefft i Ddolgellau;
pletha fydr a gwydr a'u gwau
â llewyrch i greu lliwiau.
Gwaith gwydr Daniel Mahers, Abertawe.
Cerddoriaeth Tud Jôs - Y Gwydr Glas
https://t.co/LeMHW9xpV4
Llwyddiant!
Weithiau wir mae hi werth o - i roi stamp
a chreu stŵr a chwyno
a rhegi dros Gymreigio:
hon yw'r frwydr dros wella'r fro.
@postoffice@comygymraeg@ofcomcymraeg@Cymdeithas
https://t.co/AuiRVDpY6n
Shane MacGowan (25/12/1957 - 30/11/2023)
I ba le heddiw aeth blwyddyn - a ble'r
aeth llais bloesg yr hogyn?
Mi aeth awen amheuthun
ond parhau mae doniau'r dyn.
https://t.co/b7FuJ2NN3s
Catrin Ferch Glyndŵr
Nid seigiau i dywysogion - nid gwên
Ond gwarth carcharorion
A grym ymerodraeth gron
Ry hualau mor greulon.
https://t.co/ondusLjVD3
Diolch am Gefnogi @SesiwnFawr Dolgellau
I'n gigiau o bell ac agos - daethoch
ar deithiau yn ddiddos
yn dylwyth am benwythnos,
yn deulu haf i'n tre' dlos.