Bydd caneuon o orfoledd yn atseinio o byrth Jerwsalem, ac o'i holl breswylfeydd y llef, ‘Haleliwia! Bendigedig fyddo Duw Israel!’ Dan ei fendith ef, bendithiant hwy ei enw sanctaidd byth bythoedd.” - Tobit 13:18
Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy'n teyrnasu byth bythoedd. - Datguddiad 22:5
Mae'r Eglwys yn cofio Sant Andras Dũng-Lạc (1795-1839) a'i gyd ferthyron
Gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a'r pechod sy'n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o'n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd.
Hebreaid 12 1-2
Uchelwyl ein Harglwydd Iesu Grist, Brenin y Bydysawd.
"Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef, a bydd yn teyrnasu byth bythoedd.”
- Datguddiad 11:15
Gŵyl gyflwyno Fair Fendigaid yn y Deml.
Llawenychaf yn fawr yn yr Arglwydd, gorfoleddaf yn fy Nuw;
canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth,
taenodd fantell cyfiawnder drosof,
fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch, a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau.
Eseia 61:10
Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
Bendithiwn chwi o dŷ'r Arglwydd.
Yr Arglwydd sydd Dduw, rhoes oleuni i mi.
 changau ymunwch yn yr orymdaith
hyd at gyrn yr allor.
Salm 118.26-27
Buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant. Colosiaid 3.3-4
Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda,
a chei gartref diogel am byth,
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn,
ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid.
Salm 37.27-28
Gŵyl San Dyfrig, Esgob (6ed ganrif)
At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr. 1 Pedr 2.4
Dydd y Cofio
Ni heneiddiant hwy,
Fel ni, a adawyd.
Ni ddwg oed iddynt ludded
Na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
Pan elo’r haul i lawr
Ac ar wawr y bore,
Ni â’u cofiwn hwy,
Ni â’u cofiwn hwy.
Gŵyl holl Saint Cymu
Parchwn, Arglwydd, goffadwriaeth,
Pawb o Seintiau Cymru wen,
Yr Esgobion a'r offeiriaid
A'r merthyri hwnt i'r llen:
Dewi, Dyfrig, Deiniol, Teilo-
Bu eu pader, bu eu penyd
Yn sancteiddio erwau'r tir.
Gŵyl Illtud, Abad yn y 6ed ganrif a sylfaenydd mynachlog Llanilltud Fawr.
yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
- 1 Pedr 2:5
Mae'r Eglwys yn cofio'r Cardinal San Carlo Borromeo, (1538-1584).
Roedd Gruffydd Robert yn gweithio iddo fel cyffeswr a chanon duwinyddol.
ffoi rhag y pethau hyn, a rhoi dy fryd ar uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder.
- 1 Timotheus 6:11