Noson ddifyr yng nghwmni @Gurfal i ail agor nosweithiau Tŷ Tawe wedi’r Gofid Mawr.
Braf clywed cerddoriaeth fyw a gweld nifer dda o wynebau yn ymgynnull unwaith eto. Cafwyd ambell drac newydd o’i albwm #ofeirionidreforys ac ‘ambell i gân’ o’r archif i ddiddanu pawb.
#tytawe
Mae Alun Rhys Chivers wedi mwynhau mynd ar daith i’r gorffennol yng nghwmni’r canwr-gyfansoddwr Huw Dylan Owen @CylchgrawnGolwg#cerddoriaeth
✍️ @alunrhyschivers
https://t.co/ag6eCz4aIb
"O ystyried cyfoeth y traddodiad barddol yng Nghymru mae'n syndod fod cyn lleied o'n cerddorion wedi manteisio ar y gynghanedd a'r mesurau Cymraeg dros y deugain mlynedd diwethaf." 🎵🎻🎸
@Gurfal
https://t.co/JkBRJQwjaQ
o F i D - ALLAN HEDDIW!
Weithiau daw awr afieithus - y gwanwyn
A'i ganu hudolus
Yn firi iach nodau'n frys
I fore yn Nhreforys.
Ie, ond heddiw? Nid dyddiau - cyffredin
Cyffro ydynt. Nodau
Rydd hwyl a'u haf fyn ryddhau
Yn gellwair o Ddolgellau.
https://t.co/DmPwSElO0B
Mudo
Yn ufudd, rhywsut mae'n cofio - y nyth
Fu’n hin haf cyn mudo
Adref; rhaid yw'r ailgrwydro,
Daw'r gwŷs â brys 'nôl i’w bro.
O'r albwm O Feirion...i Dreforys - ar gael YFORY (1/5/2021) - o'r siopau, o Bandcamp, i'w ffrydio...
https://t.co/DmPwSElO0B
Eirth
Pan o'wn i'n blentyn rown i’n ofalus
Wrth gerdded hyd y stryd,
Wrth gamu'r pafin ceisio osgoi'r craciau
Rhag ofn i’r eirth fy ngweld i.
Ond wrth dyfu fyny newidiodd bygythiad,
Dwi’n drist ac yn hiraethu
am i’r eirth ddychwelyd...
O Feirion... ...i Dreforys
Ar gael: 1/5/21
Cer allan a hel myrdd betalau
Yr ardd yn holl liwiau yr haf,
Cadw nhw'n grin tan yr hydref
I greu cwrlid o bersawr braf.
GORCHUDDIA FI!
Ar O Feirion i Dreforys - Ar Werth o'r 1af Mai 2021
https://t.co/DmPwSElO0B
Er cof am Gareth Rees (1955 - 2020)
Ei sbri a'i ddireidi rodia’n hoenus,
Erys ei wên hoffus. Braf yw'r coffa.
@ffototawe@cyrfe@tanylan @menteriaithabertawe @ReesGP@sioptytawe
@cyrfe @LeeMasonGuitar Bysedd wedi croesi byddwn ni yna yn mis Medi 🤞tan hynny croeso i bawb ymuno â ni yn ein gig dwyieithog ar Facebook nos fory am 7yh!!
Gobeithio wir mai nid 2020 fydd y flwyddyn gyntaf i ni fethu â chael cwmni @LowriEvansMusic a @LeeMasonGuitar yn @cyrfe ...ond, gallwn ymuno â nhw nos yfory, 6ed o Fai, yn fyw ar Facebook. Gig byw o’r tŷ yn Nhudraeth!
Rydyn ni wedi bod yn hynod ffodus i fwynhau nosweithiau @cyrfe difyr yng nghwmni @GwenanGibbard , os ydych chi awydd profi neu ail-fyw hwyl y nosweithiau rheiny ymunwch â Gwenan nos Wener yma, 1.5.20, am 7.30 ar ei thudalen Facebook. 🍻 #yagym
Huw Bobs Pritchard yn Tŷ Tawe Ty Tawe https://t.co/jF3LywQDE7 Sain gwell - byrdde cadarn fan hyn x bydde mynd nôl eto yn braf er Dwi’n ddiolchgar bo ni wedi ein cipio’n ddigidol er mwyn cydnabod arwyddocad y llefydd cyhoeddus a’r profiad wyneb yn wyneb sy’n caniatau rhyngweithio