@ManUtdCy digalon arol disgwl bron i fis am gem! hanar cynta waetha’r tymor, ddim balans o gwbl i weld yn y tim heno. gema n erbyn chelsea a lerpwl n gema mawr wan!🫣
@ManUtdCy lwcus i gal pwynt ar ol bod reit fflat, sesko di bod yn anlwcus i beidio cychwyn y 3 gem diwethaf, fysa fo n siwtio gema fel yma yn dda, wastad yn achosi problemau i amddiffynwyr a cael cyfleoedd.ond wedi bod yn anodd i carrick newid y tim arol y dechreuad ma di gal.pwynt pwysig!
@ManUtdCy fydda nhw n cicio i hunan am fethu champions league leni, wedi gwastraffu gymaint o bwyntiau, neis gweld y bel yn disgyn i sesko heno, mae o di bod n chwara reit daclus mewn lot o gema, chydig o lwc a hyder yn helpu fo fnd ymlaen wan gobithio! dal i ildio goliau bler gwirion!!!🤦🏻♂️
@ManUtdCy maisho mynadd gwylio hein! dani’n ofnadwy o dda am roi hyder i’n gwrthwynebwyr yn anffodus!! jysd ddim yn edrych yn iawn ond gobithio geith sesko chydig o lwc i gal ei gol a bo ni ddim yn neud mwy o lanasd!
@ManUtdCy ma nw wirioneddol ofnadwy o gwmpas a tu fewn i’r bocs, Amad ydi’r unig fygythiad, anodd iawn chwara bob gem n gwybod bo ildio un gol yn ddigon i golli! Hojlund n anobeithiol eto! dim ond un gem arall i ddiodda!😅
@ManUtdCy dim bygythiad o gwbl eto, Palace yn gyfforddus yn amddiffyn. blerwch ar set piece a colli gol arall ar counter eto. un o gemau hawsa palace fel nifer o dimau leni. safle r gynghrair yn adlewyrchiad teg os nad yn well na ddylai fod!lot o waith yn anffodus!duw a wyr be ddaw!
@ManUtdCy recriwtio heb fod yn dda ond methu deall be sy n digwydd i bob chwaraewr da/golew dani n brynu, maent i gyd yn dirywio!!!methu deall pam bo ni mor wael yn gorfforol yn erbyn bob tîm chwaith, gwan, araf nag yn edrych mor ffit!tymor hir. a i topio fo off lerpwl am guro n hawdd!
@gerainto@ManUtdCy Amad ben a sgwydda uwchben y gweddill dydi. Ugarte di setlo a neud ei rol yn effeithiol, Yoro n edrych n addawol eto efyd. perfformiad da ar y cyfan - gwallau chwaraewyr yn cael eu amlygu a chostio’r gem i ni! mond angen 4 neu 5 chwaraewyr newydd ia?? (eto!!🫣🤣)
@gerainto@ManUtdCy Rashford yn edrych fel bod o eisiau cael ei werthu! son am neud argraff ar reolwr newydd!nifer ddim digon da ond braf gweld rheolwr yn fodlon newid a rhoi amser golew i subs neud gwahaniaeth! Bruno n siwtio chaos yn hytrach na unrhyw strwythur dydi - dani dal yn ry araf yn ymosod
@ManUtdCy cytuno, diom n gweithio fel un o’r 3 yn y canol a ma ETH yn gwrthod newid siap y 3 blaen. gem golew dwytha gafodd bruno oedd yn ffeinal FA cup lle oedd yna 3 arall yn ganol cae! ETH n gwrthod newid ei ffordd! arwydd drwg bo gema fel heddiw ddim n siomi na gwylltio rhywun bellach!
@ManUtdCy methu deall. fel chwara efo 2 yn y canol os di bruno yn un o’r 3, amddiffyn yn aros nol yn aml ond blaenwyr yn pwyso a wedyn 2 n canol yn trio gwarchod dros hanar y cae, amhosib o dasg!system yma ddim i weld yn gweddu’r chwaraewyr neu dydi nhw ddim yn ei ddeall ar adegau!🤷🏻♂️
@gerainto@ManUtdCy@ApGwern@DBW77 @arthur_wyn @Chris_458@elwynbeanz@Garmondavies dim esgusion eleni, mashwr bod o lwcus bo na neb amlwg ar gael dros yr haf. allan o’r 10 perfformiad gwaetha dwi di weld gan united, ma dros hanar nhw yn y 3 tymor diwethaf, ffasiwn shambyls!