Helo, trydar! Ni yw Beca, grwp newydd, gwerinol o ardaloedd Abertawe a Chwm Gwendraeth! Dyma ni yn recordio fel band am y tro cynta diolch i stiwdio recordio'r cwrs Gwerin Gwallgo'⭐
Bar CWRW Caerfyrddin...
GIG NADOLIG CAERFYRDDIN
Gwdihŵs
Rhys Dafis
Band Beca
Nos Wener, 27 Rhagfyr
CWRW, Caerfyrddin
8pm, 18+, £6/£8
Tocynnau > https://t.co/jbRgmbHGEY neu ar y drws.
Ar ddiwedd wythnos hirfaith o waith, dewch nos Wener i Borth-y-rhyd am barêd hafaidd ym mharti Porth-y-rhyd a byddwn ni yn chwarae yno, yn fyw!🌠 Manylion ar y poster oddi tano.
Haf braf o'n blaen... Mi fyddwn ni'n chwarae yn @Tafwyl flwyddyn 'ma ynghyd a' r artistiaid campus sydd i'w gweld ar y lein-yp, isod! Edrych 'mlaen i'ch gweld yn y brif ddinas... ❤️💚
Diolch yn fawr i @BandBeca am noson hyfryd o hwyl hafaidd yn noson @cyrfe fis Mai!
Efallai mai dyma’r tro cynta’ i’r band berfformio yn Nhŷ Tawe, ond dwi’n siwr mai nid dyma fydd y tro ola’. #tyrfe19#yagym
Dewch yn llu... ac os hoffech flas ar y byd gwerin Cymraeg yn Nhŷ Tawe dewch ag offeryn gyda chi i hedfan alawon mewn sesiwn werin wedi i'r set orffen. Neu dewch i wrando a tharo troed! 😉🌻
Nos Wener yma, 31.5.19, noson Tyrfe Tawe yng nghwmni’r band gwerin newydd ‘Beca’. Dewch i fwynhau cyfuniad o draciau gwreiddiol ac ambell alaw gyfarwydd yng nghwmni Heledd, Mared a Mirain.
Cofiwch hefyd, fe fydd y siop ar agor rhwng 8-8.45pm - llond ystafell o stoc newydd!
Bythefnos i heno,31.5.19, dewch i fwynhau seiniau hyfryd band gwerin diweddara’ Cymru wrth i @BandBeca arwain noson @cyrfe ‘r mis hwn yn Nhŷ Tawe.
Tair o’r criw sy’n mwynhau Sesiwn Werin fisol Tŷ Tawe yw Band Beca -dewch yn llu i werthfawrogi talent lleol.
Noson am ddim #yagym
Braf iawn oedd cael chwarae yng Ngŵyl Werin Tredegar pnawn ma a'r haul yn gwenu! Diolch i bawb wnaeth gefnogi... Ymlaen at baratoi ar gyfer gig dipyn agosach at adref diwedd Mai ☀️
Heno, nos Wener 12fed o Ebrill, dewch yn llu i’r Sesiwn Werin yn Nhŷ Tawe
Drysau’n agor: 8pm
Cerddoriaeth: tua 8.45/9pm
Croeso i unrhyw un, i ymuno â’r offerynwyr, y cantorion neu’r criw sy’n dod i wrando a chael sgwrs a diod! 🍻🎻 #yagym
Haf braf o'n blaen... Mi fyddwn ni'n chwarae yn @Tafwyl flwyddyn 'ma ynghyd a' r artistiaid campus sydd i'w gweld ar y lein-yp, isod! Edrych 'mlaen i'ch gweld yn y brif ddinas... ❤️💚